Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 24/01/2017 - Cabinet (Eitem 12)

12 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 285 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo trosglwyddo £1m o’r gyllideb Gorfforaethol ac Amrywiol i Gronfa Lliniaru’r Gyllideb er mwyn hwyluso cyflawniad y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) sydd angen £1m o gyfraniad arian parod ychwanegol ar gyfer 2018/19 er mwyn lliniaru a lleddfu effeithiau’r gostyngiadau a ragwelir mewn cyllid dros nifer o flynyddoedd, ac

 

(c)        wedi ystyried argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol o ran prosiect Ysgolion yr 21ain ganrif Ysgol Llanfair, bod y Cabinet yn

 

·         cefnogi cyflwyno Achos Busnes ar gyfer adeilad ysgol newydd i Ysgol Llanfair (Atodiad 5) ger bron Llywodraeth Cymru

·         cymeradwyo’n ffurfiol y gyllideb gyffredinol o £5.369m fel y manylir yn yr achos busnes

·         cefnogi mewn egwyddor pryniant arfaethedig y tir yn Llanfair i hwyluso datblygiad yr ysgol newydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar gyfer 2016/17. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn-

 

·        rhagwelwyd tanwariant net o £1.070miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau corfforaethol

·        cyflawnwyd 68% o arbedion hyd yma (targed o £5.2miliwn) ac roedd 2% arall yn gwneud cynnydd da; byddai 25% yn cael ei ohirio a’i gyflawni yn 2017/18 a 5% yn unig o arbedion fyddai heb eu cyflawni o fewn yr amserlen

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol)

 

Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo trosglwyddo £1miliwn o’r gyllideb Gorfforaethol ac Amrywiol i Gronfa Lliniaru’r Gyllideb i hwyluso cyflawni’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ynghyd ag argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol mewn perthynas â phrosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif Ysgol Llanfair.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·         roedd yr Arweinydd yn falch o nodi cynnydd yr achos busnes ar gyfer Ysgol Llanfair a phwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod y rhai a oedd ynghlwm yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd

·         sicrhaodd y swyddogion bod trafodaethau rheolaidd â’r Corff Llywodraethu ac, yn dilyn cael cymeradwyaeth y Cabinet ar argymhellion y prosiect, byddai amserlen eglur yn cael ei llunio a’i rhannu.  Roedd y Corff Llywodraethu eisoes wedi bod yn ynghlwm â’r camau cynllunio cychwynnol ar gyfer adeilad newydd yr ysgol.  Cytunwyd y byddai penderfyniad y Cabinet ynglŷn â phrosiect Ysgol Llanfair yn destun datganiad i'r Wasg. Cytunwyd y dylid cael gwared â chyfeiriadau at Bentrecelyn o adroddiadau'r dyfodol ar yr eitem hon a bod argymhellion unigol yr adroddiadau'n cael eu rhifo'n briodol

·         cyfeiriwyd at safbwyntiau’r Ysgrifennydd Addysg am gefnogi ysgolion bach gwledig a ph’un a fyddai effaith ar gynigion ad-drefnu ysgolion y Cyngor o ganlyniad i’w chyhoeddiad diweddar

·         dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams y byddai mwy o drafod ar y materion hynny ar yr adeg briodol yn rhan o adolygiadau ardaloedd yn y dyfodol ac wrth ystyried cynigion Band B yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

 (b)      cymeradwyo trosglwyddo £1miliwn o’r gyllideb Gorfforaethol ac Amrywiol i Gronfa Lliniaru’r Gyllideb er mwyn hwyluso cyflawni’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) sydd angen cyfraniad ariannol ychwanegol o£1miliwn ar gyfer 2018/19 er mwyn lliniaru a lleihau effeithiau’r gostyngiadau a ragwelir mewn cyllid dros nifer o flynyddoedd, ac

 

 (c)       wedi ystyried argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol o ran prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif Ysgol Llanfair, bod y Cabinet yn -

 

·         cefnogi cyflwyno Achos Busnes ar gyfer adeilad ysgol newydd i Ysgol Llanfair (Atodiad 5) gerbron Llywodraeth Cymru;

·         cymeradwyo’r gyllideb gyffredinol o £5.369miliwn yn ffurfiol fel y’i manylir yn yr achos busnes

·         cefnogi’r cynnig i brynu tir yn Llanfair, mewn egwyddor, i hwyluso datblygiad yr ysgol newydd.