Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 507522

Cyfarfod: 20/12/2016 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)

6 ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0269/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Mellor gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn adnabod dau o'r tystion yn yr achos hwn a gadawodd y cyfarfod pan fu’r pwyllgor yn ystyried yr eitem hon]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif

(ii)        15/0269/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat wedi cwyn am gythraul gyrru;

(iii)      manylion ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig ac roedd dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad;

 

(iv)      roedd y Gyrrwr wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu o’r blaen ar 10 Mehefin 2015, a chanlyniad yr achos hwnnw, a

 

(v)       bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolydd Cyfreithiol, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Amlinellodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r achos fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Cynghorodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd y Gyrrwr am ddadlau yn erbyn y mwyafrif o’r honiadau yn natganiadau’r tystion ac roedd wedi derbyn ei ymddygiad yn ystod y cyfweliad.  Rhoddodd fanylion am yr amgylchiadau’n arwain at y digwyddiad oedd yn ymwneud â symudiad tancer ar gyffordd.  Yn dilyn y symudiad roedd y Gyrrwr wedi gollwng ei deithwyr ac wedi mynd yn ôl i weld gyrrwr y tancer er mwyn trafod ei ffordd o yrru.  Fodd bynnag gwrthododd gyrrwr y tancer â siarad ag ef a cherddodd i ffwrdd ac ar y pryd hynny rhegodd arno.  Nid oedd bwriad dadlau ond roedd y ffordd roedd gyrrwr y tancer wedi ymateb wedi achosi iddo golli ei dymer.  Cyfaddefodd y Gyrrwr ei fod wedi ymddwyn yn annerbyniol ac roedd wedi cynnig ysgwyd llaw dair gwaith.  Roedd yn cydnabod yn llwyr fod ei ymddygiad yn annerbyniol ac roedd yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa ac roedd yn edifar.  Tra bo’r Gyrrwr wedi bod o flaen y pwyllgor ym mis Mehefin 2015 roedd natur yr achos hwnnw wedi bod yn wahanol ac fe gyfaddefodd y Gyrrwr ei euogrwydd ar yr achos hwnnw.  Darparwyd esiamplau o gymeriad da'r Gyrrwr a chynghorwyd aelodau ei fod wedi dal trwydded y tu allan i’r ardal ac roedd â record hollol lân.  Rhoddwyd manylion amgylchiadau personol y Gyrrwr a allai fod wedi effeithio ei ymateb i ryw raddau a dywedwyd y byddai colli ei drwydded yn golygu caledi ariannol. 

 

Cymerodd Aelodau’r cyfle i gwestiynau’r Gyrrwr ar ddatganiad ei gyfweliad a’i fersiwn o’r digwyddiad a holwyd iddo beth oedd wedi bwriadu ei ennill o'i weithredoedd.  Cynghorodd y Gyrrwr nad oedd wedi paratoi ar gyfer y cyfweliad gan nad oedd wedi cael gwybod beth oedd natur y gwyn ond o dan bwysau fe wnaeth gadarnhau fod ganddo syniad.  Ymhelaethodd ar y digwyddiad o’i bersbectif ef gan ddweud ei fod yn teimlo ei fod wedi ei fwlio gan yrrwr y tancer a'i fod am ei holi am ei ddull o yrru ond roedd wedi ei bryfocio a chollodd ei dymer a chyfaddefodd wrth edrych yn ôl na fyddai’n cymryd y camau hynny eto.  Dadleuodd ei fod wedi ei hel o’r eiddo a’i fod wedi ceisio ymddiheuro ar y pryd.  Fel gyrrwr trwyddedig roedd yn gweld digwyddiadau traffig niferus yn aml heb ddial a dywedodd fod yr achos hwn yn enghraifft brin na fyddai’n cael ei ailadrodd yn y dyfodol.

 

Yn ei ddatganiad terfynol ailadroddodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd yn fwriad gan y Gyrrwr achosi dadl pan aeth yn ôl  ...  view the full Cofnodion text for item 6