Mater - cyfarfodydd
Y DYFODOL CONTRACT VARIATION (EXTENSION)
Cyfarfod: 15/11/2016 - Cabinet (Eitem 6)
6 AMRYWIAD CONTRACT Y DYFODOL (ESTYNIAD) PDF 96 KB
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi yn amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn contract ‘Y Dyfodol’ Clwyd Alyn i 30 Medi 2018 ac ymchwilio ymhellach i’r opsiwn o ddatblygu cytundeb partneriaeth â Chlwyd Alyn i ddarparu’r gwasanaeth ar ôl Medi 2018.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) cymeradwyo estyniad i gontract Y Dyfodol Clwyd Alyn tan 30 Medi 2018, a
(b) chymeradwyo’r cynnig i ymchwilio ymhellach yr opsiwn o ddatblygu cytundeb
partneriaeth gyda Clwyd Alyn i ddarparu’r gwasanaeth ar ôl mis Medi 2018.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ymestyn contract prosiect Y Dyfodol gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn tan 30 Medi
2018, ac archwilio’r dewis o ddatblygu cytundeb partneriaeth gyda Clwyd Alyn ar
gyfer darparu’r gwasanaeth ar ôl mis Medi 2018.
Roedd
46% o ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc a ariennir gan Gefnogi Pobl yn Sir
Ddinbych yn cael ei ddarparu o dan brosiect Y Dyfodol a oedd yn darparu 33 uned
o dai â chymorth. Roedd
y contract presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2017 a byddai’r amrywiad
contract arfaethedig yn ymestyn y contract am 18 mis pellach gan arwain at
werth contract diwygiedig o £2,627,698.10 (roedd y gost flynyddol eisoes wedi’i
chyllidebu yng Ngrant Cefnogi Pobl). Ymhelaethodd y Cynghorydd
Feeley ar y rhesymau dros ymestyn y contract er mwyn ail-fodelu Y Dyfodol mewn
cydweithrediad â budd-ddeiliaid allweddol fel rhan o ddatblygiad ymagwedd
ehangach Llwybr Pobl Ifanc oedd wedi’i nodi fel blaenoriaeth ar gyfer
datblygu’r gwasanaeth. Roedd
amlinelliad bras a llinell amser wedi’u cytuno ac fe gynhaliwyd trafodaethau
cychwynnol gyda Clwyd Alyn i ddarparu’r gwasanaeth a ailfodelwyd. O ystyried
lefel y goblygiadau gwario o ganlyniad i estyniad y contract, roedd angen
cymeradwyaeth y Cabinet.
Ymatebodd
y Swyddog Comisiynu a Thendro i’r cwestiynau fel a ganlyn-
·
ymhelaethodd ar fwriad y
gwasanaeth a ail-fodelwyd i leihau nifer yr unedau llety â chymorth gan eu
disodli gyda chymhareb staff uwch gydag un uned a rennir llai sydd â dwysedd
uwch ac unedau hunangynhwysol gwasgaredig.
·
eglurodd y rhesymeg y byddai
symud i ymyraethau gwell ar gam cynharach yn y Llwybr newydd ar gyfer pobl
ifanc sy’n datgan eu bod yn ddigartref yn arwain at ostyngiad mewn galw am
unedau llety â chymorth.
·
cynghorodd bod ‘gweithwyr
cymorth fel bo’r angen’ yn darparu cymorth i bobl ifanc yn eu llety eu hunain
yn hytrach na chymorth penodedig i gyfeiriad penodol.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) cymeradwyo
estyniad contract Y Dyfodol gan Clwyd Alyn tan 30 Medi 2018, ac yn
(b) cymeradwyo’r
cynnig i archwilio’r dewis o ddatblygu cytundeb partneriaeth gyda Clwyd Alyn er
mwyn darparu'r gwasanaeth ar ôl mis Medi 2018.