Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 15/11/2016 - Cabinet (Eitem 7)

7 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 186 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaeth ar gyfer 2016/17. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn-

 

·        rhagwelwyd tanwariant net o £0.545 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        Roedd 68% o’r arbedion wedi’u cyflawni hyd yn hyn (targed o 5.2m) gyda 2% pellach yn gwneud cynnydd da; byddai 25% yn cael eu gohirio ac yn cael eu cyflawni yn 2017/18 gyda dim ond 5% o’r arbedion heb eu cyflawni o fewn y terfyn amser.

·        amlygodd y risgiau cyfredol a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Cafodd y materion canlynol eu codi yn ystod y drafodaeth  -

 

·         cyfeiriwyd at y goblygiadau ariannol sy’n deillio o fethiant GHA Coaches, ac adroddodd y Cynghorydd David Smith ar yr ymdrechion parhaus i dderbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i ddiwallu’r costau hynny – roedd y mater wedi’i ganlyn yn gryf ac fe hysbysir y Cabinet pan dderbynnir ymateb gan Weinidog yr Economi a Seilwaith mewn perthynas â hynny.

·           Tynnwyd sylw at y pwysigrwydd o ddarparu gwasanaethau bysiau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac eglurodd y Cynghorydd Smith y byddai unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru’n daliad un tro mewn perthynas â’r costau ychwanegol a achoswyd i’r Cyngor i adfer y gwasanaethau bysiau lleol ar ôl methiant GHA.  O ran darpariaeth barhaus gwasanaethau bysiau lleol, byddai Aelodau Arweiniol o awdurdodau lleol Gogledd Cymru’n cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos honno i drafod y mater.  Nodwyd nad oedd Fforwm Cludiant Gwledig y Cyngor wedi cyfarfod ers peth amser ac roedd yr Arweinydd yn teimlo y byddai’n briodol trefnu cyfarfod er mwyn derbyn gwell dealltwriaeth o wasanaethau lleol yn Sir Ddinbych.

·         Roedd rhan o’r drafodaeth yn canolbwyntio ar falansau ysgolion ac fe godwyd pryderon ynglŷn â’r pwysau ar ysgolion a’r defnydd o falansau er mwyn parhau â’r gwaith da nad oedd yn gynaliadwy yn hirdymor- cyfeiriwyd at lefel y balansau a chanllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hynny.   Canmolodd y Cynghorydd Eryl Williams waith y Fforwm Cyllideb Ysgolion ac adroddodd am y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i adolygu lefel balansau ysgolion a sut yr ariennir ysgolion.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at ddatblygiad yr adeilad ysgol newydd a rennir yng Nglasdir ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Penbarras a cheisiodd sicrwydd y byddai’r ysgolion yn agor ar amser ym mis Medi 2017. Eglurodd y Cynghorydd Eryl Williams fod prosiectau adeiladu o’r fath bob amser yn achosi rhywfaint o oedi mewn rhai agweddau penodol ac aildrefnu agweddau eraill.  Adroddodd ar y mesurau cadarn sydd yn eu lle i fonitro cynnydd drwy’r bwrdd prosiect ac fe gadarnhaodd yr asesir y risg ar gyfer pob prosiect ac yr ymatebir i unrhyw broblemau yn briodol.  Er nad oedd pryder gormodol na fyddai’r terfyn amser yn cael ei ddiwallu, cytunwyd pe bai’r sefyllfa yn newid dylai’r Cyngor fod yn agored am unrhyw oedi i’r terfyn amser a rhannu’r wybodaeth cyn gynted â phosib.

·         mewn ymateb i’r cwestiynau, ymhelaethodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ar y 5% o arbedion na fyddent yn cael eu diwallu o fewn y terfyn amser. Roedd yn cynnwys dwy elfen yn ymwneud â phrosiect ‘newid sianeli – dewis digidol’ a’r gostyngiad mewn galw am ffioedd cyfreithiol/proffesiynol oedd heb eu gwireddu fel y disgwyliwyd.  O ran arbedion y Cynllun Ariannu Preifat byddai £1.4m yn cael ei wireddu a byddai arbedion ariannol yn ystod y flwyddyn yn cael eu dyrannu pan fo'r holl bwysau ar gyllidebau yn hysbys; o 2017/18 roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 7