Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 15/1594/TXJDR

Cyfarfod: 22/09/2016 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)

7 ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1594/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR wedi’u profi ac na ddylid gweithredu o gwbl.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a pheryglus;

 

(ii)       bod manylion ynghylch y diffygion a nodwyd yn dilyn cyflwyno’r cerbyd ar gyfer Prawf Cydymffurfio/MOT Mai 2016 a chyhoeddi 20 pwynt cosb wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth;

 

(iii)      y Gyrrwr wedi apelio’r penderfyniad i ddyfarnu'r 20 pwynt cosb ar y sail, ei fod wedi cyflwyno’r cerbyd ar gyfer y prawf o flaen llaw mewn garej wahanol, a bod y gwaith trwsio angenrheidiol wedi cael ei wneud yn unol â methiant y prawf a hysbysiadau cynghori (nid oedd y ddwy eitem a nodwyd fel 'peryglus' yn y prawf dilynol ym Mai wedi cael eu nodi yn ystod y prawf cyntaf) – y Gyrrwr wedi methu â darparu tystiolaeth ddogfennol o'i hawliadau ac ar ôl ymchwiliadau, fe wrthododd y swyddogion yr apêl, a

 

(iv)      bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi adolygiad o’i drwydded, er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei chais a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a threfnau’r pwyllgor.

 

Amlinellodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r achos fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Derbyniodd y Gyrrwr y ffeithiau fel y nodwyd yn yr adroddiad, ar wahân i'r methiant i gredu ei fod wedi cyflwyno’r cerbyd i'r Orsaf Brofi ymlaen llaw.  Dadleuodd ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau addasrwydd y cerbyd ac fe fanylodd ar y digwyddiadau a arweiniodd at Fethu’r Prawf Cydymffurfio/MOT a oedd yn cynnwys (1) adnewyddu'r cerbyd mewn siop rhannau ceir; (2) cyflwyno’r cerbyd mewn Gorsaf Brofi lle cafodd cyn-archwiliad ei wneud a nododd bump o ddiffygion; (3) cyflwyno'r cerbyd i garej wahanol a drwsiodd y diffygion a nodwyd, a (4) cyflwyniad terfynol o’r cerbyd ar gyfer Prawf Cydymffurfio/MOT angenrheidiol a arweiniodd at fethu’r prawf.  Darparodd y Gyrrwr dystiolaeth o daliadau a wnaed i bob un o'r tair garej ar wahân a nodwyd yn ei gyflwyniad, er nad oedd tystiolaeth o'r gwaith a wnaed a’r diffygion a nodwyd wedi cael eu rhoi.  Rhoddwyd tystiolaeth ddogfennol ar ffurf datganiad tyst yn cadarnhau casglu’r cerbyd o'r Orsaf Brofi a’i gyflwyno i garej ar wahân ar gyfer gwaith trwsio.  Yn olaf, cyflwynwyd llythyr gan Frocer Yswiriant y Gyrrwr i gefnogi ei achos.  Wrth gloi ei gyflwyniad, dywedodd y Gyrrwr ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth ac wedi ymddiried mewn gweithwyr proffesiynol tair garej ar wahân a oedd wedi methu adnabod y diffygion fel y rhestrir ar yr hysbysiad methiant.  Rhoddodd sicrwydd bod camau wedi’u cymryd ar unwaith i drwsio’r diffygion unwaith y cawsant eu nodi ac nad oedd y cerbyd wedi bod yn berygl i'r cyhoedd, gan nad oedd wedi bod yn gwasanaethu yn ystod y cyfnod yn arwain at fethu’r prawf.  Yn olaf, fe roddodd y Gyrrwr rhywfaint o wybodaeth gyffredinol am reoli ei fusnes a chynnal a chadw ei gerbydau trwyddedig heb ddigwyddiad blaenorol.

 

Cymerodd yr Aelodau’r cyfle i godi cwestiynau gyda'r Gyrrwr er mwyn egluro trefn y digwyddiadau ymhellach a'r camau yr oedd wedi’u cymryd mewn ymateb i amgylchiadau penodol i sicrhau bod y cerbyd mewn cyflwr diogel ac addas i'r ffordd fawr, ynghyd â chwestiynau ynghylch rheolaeth gyffredinol ei fusnes a threfn cynnal a chadw cerbydau.  Ymatebodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 7