Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF STREET TRADING POLICY

Cyfarfod: 22/09/2016 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)

5 ADOLYGU'R POLISI MASNACHU AR Y STRYD pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn hysbysu aelodau o'r cynnydd mewn perthynas ag adolygiad o bolisi presennol masnachu ar y stryd yn Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Trwyddedu yn-

 

 (a)      Awdurdodi swyddogion i barhau i weithio ar ddrafft Polisi Masnachu ar y Stryd, gan ystyried unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol sydd i ddod a allai effeithio ar reoleiddio masnachu ar y stryd fel y’u drafftiwyd gan Lywodraeth y DU, ac

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar bolisi drafft a gan gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law, llunio drafft terfynol i'r Aelodau ei ystyried yn eu cyfarfod ym mis Mawrth 2017.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn hysbysu aelodau o gynnydd o ran yr adolygiad o'r polisi masnachu ar y stryd cyfredol yn Sir Ddinbych.

 

Rhoddodd Swyddogion rywfaint o gefndir i weithrediad cyfredol y gyfundrefn masnachu ar y stryd a oedd yn cael ei hadolygu, er mwyn mynd i'r afael ag anawsterau yn y system a rheoleiddio a chefnogi masnachu ar y stryd yn well yn y sir.  Roedd y diffiniad o fasnachu ar y stryd wedi cael ei nodi yn yr adroddiad ynghyd ag eithriadau cyfreithiol ar gyfer mathau penodol o fasnachu, a'r rhai a reoleiddir gan ddulliau neu awdurdodau eraill.  Gofynnwyd am farn yr Aelodau ar ddrafft cychwynnol (yn amgaeedig gyda’r adroddiad) ac roedd swyddogion yn bwriadu parhau i weithio ar y drafft, gan ystyried unrhyw ofynion deddfwriaethol newydd, cyn cynhyrchu strategaeth ddrafft derfynol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac ystyriaeth wedi hynny gan y pwyllgor.

 

Roedd trafodaeth ar y materion polisi yn cynnwys y canlynol -

 

·         cafodd y cynnig i gyflwyno system o "ganiatâd bloc dros dro" fel y manylir ym mharagraff 4.3.3 o'r adroddiad ei gefnogi'n llawn gan y Cynghorydd Barry Mellor, er mwyn ei gwneud yn haws i drefnwyr digwyddiadau cymunedol ac annog presenoldeb

·         cyfeiriwyd at y strydoedd gwaharddedig ar gyfer dibenion masnachu ar y stryd yn y Rhyl a Phrestatyn, a chadarnhaodd swyddogion y byddai rhan o'r adolygiad yn cynnwys p'un a fyddai unrhyw newid i'r system gyfredol o strydoedd â chaniatâd a rhai gwaharddedig yn briodol, gan gymryd i ystyriaeth y gwahanol ardaloedd o fewn y sir er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd o fewn y cynllun

·         nodwyd bod y Cynghorydd Bill Cowie wedi ei enwebu fel cyswllt y pwyllgor ar ddatblygiad y polisi drafft a chadarnhaodd swyddogion y byddent yn croesawu ei gyfraniad wrth ddatblygu'r drafft terfynol ymhellach - canmolodd y Cynghorydd Cowie y gwaith hyd yma ar y drafft cychwynnol ac fe gefnogodd waith parhaus y swyddogion ar yr adolygiad fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Holodd yr Aelodau a oedd rheoleiddio gweithgareddau penodol sy'n peri pryder yn rhan o gylch gwaith masnachu ar y stryd ai peidio, gan gynnwys trwyddedau parcio a roddwyd i gontractwyr sy'n gweithio o fewn canol trefi (a oedd wedi achosi rhywfaint o anghytuno yng Nghanol Tref y Rhyl) a masnachwyr twyllodrus a oedd yn gweithredu o gerbydau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  Dywedodd y swyddogion bod y ddau fater yn disgyn y tu allan i'r gyfundrefn masnachu ar y stryd.  Roedd trwyddedau parcio yn cael eu hawdurdodi gan Adain Gwaith Stryd Priffyrdd a gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau drafod unrhyw bryderon yn hynny o beth yn uniongyrchol gyda'r Pennaeth Priffyrdd.  O ran masnachwyr twyllodrus, dylai aelodau gyfeirio eu pryderon at yr Adain Safonau Masnach ar gyfer ymchwiliad.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Trwyddedu yn -

 

(a)       awdurdodi'r swyddogion i barhau â'r gwaith ar y Polisi Masnachu ar y Stryd drafft, gan ystyried unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol sydd ar ddod a allai effeithio ar reoleiddio masnachu ar y stryd fel y'i drafftiwyd gan Lywodraeth y DU, ac

 

(b)       awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar bolisi drafft, a chymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law, a llunio drafft terfynol i aelodau ei ystyried yn eu cyfarfod ym mis Mawrth 2017.