Mater - cyfarfodydd
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Cyfarfod: 22/09/2016 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 3)
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.
Penderfyniad:
MATERION BRYS: TACSIS SY’N HYGYRCH I GADEIRIAU
OLWYN-
PENDERFYNWYD bod
y swyddogion yn archwilio a oedd tacsis sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn sy’n gweithredu
yn yr ardal yn darparu gwasanaeth tacsi priodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau
olwyn ac adrodd yn ôl i’r aelodau ynglŷn â hynny.
Cofnodion:
Penderfynodd y Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y
mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo:-
TACSIS YN HYGYRCH I
GADEIRIAU OLWYN
Tynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield sylw at
achos diweddar lle’r oedd nifer o dacsis hygyrch i gadeiriau olwyn yn
gweithredu yn ardal y Rhyl, wedi gwrthod derbyn archeb i gludo defnyddiwr mewn
cadair olwyn. Cyfeiriodd at drwyddedau cerbydau hacni ychwanegol a gyhoeddwyd yn benodol
ar gyfer cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn er mwyn darparu’r gwasanaeth hwnnw,
a mynegodd bryderon difrifol bod tacsis sy’n hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn
gwrthod ei roi. Roedd y swyddogion yn ymwybodol bod nifer o dacsis wedi cael eu hysbysebu
fel cludwyr cadeiriau olwyn arbenigol a chytunwyd i edrych i mewn i'r mater
ymhellach.
PENDERFYNWYD bod
swyddogion yn ymchwilio a yw tacsis sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn sy’n
gweithredu yn yr ardal yn darparu gwasanaeth tacsi addas i ddefnyddwyr
cadeiriau olwyn, ac adrodd yn ôl i'r aelodau ar hynny.