Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

LODGE FARM, DENBIGH

Cyfarfod: 26/07/2016 - Cabinet (Eitem 13)

13 LODGE FARM, DINBYCH

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo datganiad y fferm a'r tir fel gweddill i anghenion a'i waredu wedi hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo datgan Lodge Farm, Dinbych (fel a ddangosir gydag amlinelliad coch ar Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad) yn weddill i anghenion ac yn cymeradwyo cael gwared ar y fferm fel a fanylwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn argymell y dylai’r Cabinet gymeradwyo datgan y fferm a’r tir yn weddill i anghenion a’i waredu wedi hynny fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet rinweddau’r cynnig, sy’n cydymffurfio â strategaeth stadau amaethyddol y Cyngor, a nodi’r amodau gorswm sydd yn eu lle i warchod budd y Cyngor yn y safle yn y dyfodol. Dywedwyd hefyd y byddai'r tir sydd wedi ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer tai yn cael ei gadw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo datgan Lodge Farm, Dinbych (fel y dangosir gydag amlinelliad coch yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad) yn weddill i anghenion ac yn cymeradwyo cael gwared ar y fferm fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 p.m.