Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ANNUAL TREASURY MANAGEMENT REPORT 2015/16

Cyfarfod: 26/07/2016 - Cabinet (Eitem 8)

8 ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS 2015/16 pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn diweddaru'r aelodau ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2015/16.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2015/16.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys gan ddangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2015/16.

 

Wrth grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at y cefndir economaidd a'i effaith ar weithgareddau rheoli'r trysorlys. Tynnodd sylw at y prif bwyntiau o ran benthyca a gweithgarwch buddsoddi, gan gynnwys tu i adael cytundeb Cynllun Ariannu Preifat Neuadd y Sir a thalu i adael y Cymhorthdal ​​Refeniw Tai, a fydd yn arwain at arbedion sylweddol i'r awdurdod. Cadarnhaodd hefyd bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r holl ddangosyddion darbodus, a rhoddodd wybodaeth am y dangosyddion hynny (gweler Atodiad B yr adroddiad). Atgoffodd y Prif Swyddog Cyllid bod gweithgarwch benthyca'r Cyngor yn cael ei gymell gan ei wariant cyfalaf sy'n gysylltiedig â'r cynllun cyfalaf. Yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd bu’r marchnadoedd ariannol yn anwadal am gyfnod. Nododd y Cabinet bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn diweddariad rheolaidd ar weithgareddau rheoli'r trysorlys.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Trafodwyd y cyhoeddiad diweddar y gall banciau gyflwyno cyfraddau llog negyddol, a fyddai'n golygu y byddent yn dechrau codi tâl ar dderbyn adneuon gan gwsmeriaid busnes.

Cadarnhawyd y byddai hynny’n effeithio ar yr arian yng nghyfrif cyfredol y Cyngor ac, os cyflwynir mesur o’r fath, byddai angen rheoli'r risg yn ofalus i gyfyngu ar amlygiad y Cyngor mewn perthynas â chadw arian mewn cyfrifon cyfredol. Gall hynny wedyn arwain at addasu'r strategaeth bresennol er mwyn adneuo mwy o arian parod gyda’r trysorlys yn hytrach na banciau.

·         Mae’r strategaeth rheoli trysorlys yn seiliedig ar gydbwyso risg gydag elw ar fuddsoddiad. Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf mae’r enillion wedi bod yn isel iawn o gymharu â’r blynyddoedd cyn hynny ac o ganlyniad mae'r Cyngor wedi bod yn wyliadwrus.

·         Cyfeiriwyd at y strategaeth fenthyca bresennol fel modd o bennu symiau benthyca a chyfnodau ad-dalu - eglurwyd bod y strategaeth yn cael ei rheoli drwy’r portffolio dyled presennol a’r dyddiadau aeddfedrwydd ynghyd â gofynion cyllido cyfalaf; mae’r proffil dyled yn cael ei ystyried dros gyfnod o hanner can mlynedd.

·         Gofynnwyd am sicrwydd ynghylch statws credyd y banciau ac arddododd y Prif Swyddog Cyllid ar ddiweddariadau amser real a ddarperir i'r Cyngor gan ei ymgynghorwyr trysorlys, Arlingclose Ltd, i sicrhau y gweithredir ar unwaith i ddiogelu arian parod dan yr amgylchiadau hynny ac y caiff y sefyllfa ei monitro'n gyson. Yn ôl y cyngor diweddaraf nid oes angen cymryd unrhyw gam mewn perthynas â hynny.

 

Roedd y Cabinet hefyd yn pryderu ynghylch yr ansicrwydd ariannol a wynebai’r llywodraeth leol a'r economi leol a chenedlaethol ehangach, ac ynghylch effaith y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Gofynnwyd am sicrwydd y byddai'r aelodau yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiad yn hyn o beth ac y byddai'r Cyngor mewn sefyllfa i ddylanwadu ac ymateb yn gyflym er mwyn gwneud y gorau o unrhyw fudd i'r sir.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2015/16.