Mater - cyfarfodydd
STRATEGY FOR THE PREVENTION AND DETECTION OF FRAUD, CORRUPTION AND BRIBERY
Cyfarfod: 26/07/2016 - Cabinet (Eitem 7)
7 STRATEGAETH AR GYFER ATAL A CHANFOD TWYLL, LLYGREDIGAETH A LLWGRWOBRWYAETH PDF 84 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a
Thai (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno'r strategaeth ddiwygiedig ar gyfer atal a
chanfod twyll, llygredigaeth a llwgrwobrwyaeth, i'w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth ddrafft ar gyfer Atal a Chanfod Twyll,
Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth fel sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod
Arweiniol Moderneiddio a Thai y strategaeth ddiwygiedig ar gyfer atal a chanfod
twyll, llygredigaeth a llwgrwobrwyaeth, i'w chymeradwyo. Mabwysiadwyd y
strategaeth flaenorol yn 2006 ac mae'r drafft diweddaraf wedi ei diweddaru i
ystyried y datblygiadau deddfwriaethol, technolegol a phroffesiynol newydd ac i
gynnwys neges glir na fyddai'r Cyngor yn goddef amhriodoldeb.
Yn ystod y drafodaeth gofynnwyd cwestiynau
ynghylch y camau i ddelio ag ystod o weithgareddau twyllodrus ynghyd ag unrhyw
ddiwygiad o ran arfer gorau.
Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd fel a ganlyn -
·
Eglurwyd
y byddai'r Cyngor yn parhau i fabwysiadu dull rhagweithiol o atal
gweithgareddau twyllodrus gyda’r strategaeth ddiwygiedig yn nodi sefyllfa'r
Cyngor yn glir yn y cyswllt hwnnw a’r rheolaethau ar waith.
·
Dywedodd
fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol am ddelio ag erlyniadau yn ymwneud
â thwyll budd-daliadau ond, er gwybodaeth, bod yr adran tai/treth y cyngor wedi
derbyn copi o’r strategaeth.
·
Ers
mabwysiadu'r polisi yn 2006 mae Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifyddiaeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd gyda mwy o bwyslais ar adnabod
risg.
Mae’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol bellach yn
cyfeirio at hyrwyddo gwyliadwriaeth a lleihau risg ac mae gwaith hefyd wedi ei
wneud i greu diwylliant gwrth-dwyll effeithiol gydag ystod o strategaethau
eraill yn eu lle i hyrwyddo gwyliadwriaeth ynghyd â chamau i'w cymryd pan
ganfyddir gweithgareddau twyllodrus.
·
Mae
gan y Cyngor amrywiaeth o fesurau i ddiogelu yn erbyn twyll ar y rhyngrwyd gan
gynnwys systemau TG a chaffael electronig diogel a gwiriadau adnabod.
Pob blwyddyn, fel rhan o Rwydwaith y Sector
Cyhoeddus, mae’n rhaid i’r Cyngor gyrraedd safonau llywodraeth llym o ran
diogelwch.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth ddrafft ar gyfer Atal a Chanfod Twyll,
Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth fel sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad.