Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

EMPLOYMENT AND ICT POLICIES

Cyfarfod: 26/07/2016 - Cabinet (Eitem 6)

6 POLISÏAU CYFLOGAETH A TGCH pdf eicon PDF 167 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno nifer o bolisïau cyflogaeth ar gyfer mabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn mabwysiadu'r polisïau cyflogaeth fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad yn argymell mabwysiadu’r pedwar polisi cyflogaeth sydd wedi eu datblygu/hadolygu. Mae’r adroddiad yn manylu ar y ddau bolisi newydd ac yn amlygu’r newidiadau arfaethedig o fewn y polisïau presennol a'r rhesymau am hynny. Ymgynghorwyd â’r Undebau ac maent yn hapus efo’r polisïau.

 

Y polisïau dan sylw yw -

 

(1)  Polisi Diogelwch Gwybodaeth TGCh (Polisi Diwygiedig)

(2)  Polisi Lles a Chymorth (Polisi Newydd)

(3)  Gweithdrefn Dychwelyd i’r Gwaith yn Raddol (Gweithdrefn Newydd)

(4)  Polisi Teithio (Polisi Diwygiedig)

 

Dywedwyd bod y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol unwaith eto wedi methu ffurfio cworwm o ochr y gweithwyr. Cadarnhawyd bod yr undebau wedi ymgynghori ar y polisïau y tu allan i'r cyfarfod a bod hynny wedi arwain at newid geiriad y Polisi Lles a Chymorth o ran amseroedd triniaethau wrth dderbyn cymorth cwnsela a gwasanaethau ffisiotherapi/osteopathi. Mae'r holl ddiwygiadau terfynol wedi eu cytuno arnynt gan yr Undebau cyn cyflwyno'r dogfennau polisi i'r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn mabwysiadu'r polisïau cyflogaeth fel y manylwyd yn yr adroddiad.