Mater - cyfarfodydd
PART 9 OF THE SOCIAL SERVICES AND WELL-BEING (WALES) ACT 2014 - REGIONAL PARTNERSHIP BOARD
Cyfarfod: 26/07/2016 - Cabinet (Eitem 5)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau Plant (copi'n amgaeedig) yn nodi'r
gofynion i sefydlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym mhob rhanbarth bwrdd
iechyd yng Nghymru, a'r camau sy'n cael eu cymryd i sefydlu’r Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol hwn.
Dogfennau ychwanegol:
- REGIONAL PARTNERSHIP BOARD - APP 1, Eitem 5 PDF 55 KB
- REGIONAL PARTNERSHIP BOARD - APP 2, Eitem 5 PDF 81 KB
- REGIONAL PARTNERSHIP BOARD - APP 3 EQIA, Eitem 5 PDF 280 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn cymeradwyo cynigion y Bwrdd Cysgodol Partneriaeth Rhanbarthol i
sefydlu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn amodol ar ddeialog dwy ffordd
barhaus rhwng y Bwrdd a phartneriaid ar y rhaglen waith a threfniadau
gweithredu ar gyfer y Bwrdd;
(b) yn enwebu ei Gyfarwyddwr statudol ac aelod arweiniol ar gyfer Gwasanaethau
Cymdeithasol i eistedd ar y Bwrdd, ac
(c) yn cefnogi'r opsiwn strwythurol lle -
(i)
mae Grŵp Arweinyddiaeth o
Swyddogion yn cefnogi'r Bwrdd drwy ddarparu cyngor strategol a chyfarwyddo
gwaith gweithredol.
(ii) mae'r Bwrdd yn gweithio mewn partneriaeth â threfniadau ardal i gyflwyno
gwasanaethau integredig a chyllidebau cyfunol (lle bo'n briodol).
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Oedolion a
Gwasanaethau Plant adroddiad yn nodi'r gofynion i sefydlu Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol ym mhob rhanbarth bwrdd iechyd yng Nghymru, a’r camau sy’n cael eu
cymryd i sefydlu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yma yng Ngogledd Cymru.
Diben Rhan 9 yw
gwella canlyniadau a lles pobl yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd o ddarparu gwasanaethau. Bydd y Byrddau Partneriaeth
Rhanbarthol statudol yn hyrwyddo gweithio integredig ac yn edrych ar amrywiaeth
o ffrydiau ariannu rhanbarthol yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Yn dilyn cytundeb partneriaid statudol, a
oedd yn cynnwys chwe awdurdod lleol gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr, mae Bwrdd Cysgodol wedi ei sefydlu i hwyluso'r broses o
sefydlu'r bwrdd ffurfiol ym mis Medi. Mae’r Cynghorydd Feeley yn
credu bod y Ddeddf wedi bod yn gatalydd angenrheidiol ar gyfer newid mewn
ymateb i ddemograffeg gynyddol a phobl yn byw'n hirach, ac i wella bywydau.
Ymatebodd yr
Aelod Arweiniol a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol i gwestiynau fel a ganlyn -
·
Nid yw
adnoddau’r bartneriaeth (arian parod, pobl, asedau, cyfleusterau, ac ati) yn
gwbl glir ar hyn o bryd ond bydd yn fater i’r Bwrdd ei ystyried; mae’r Bwrdd
Cysgodol wedi cyfethol cynrychiolydd Adran 151 o'r rhanbarth, gyda Swyddog
Adran 151 y Cyngor yn cymryd yr awenau, sy’n rhoi sicrwydd ynghylch yr agweddau
ariannol.
·
Bydd yr elfennau cydweithio a phartneriaeth yn
helpu i ddatblygu'r gwaith o integreiddio’r gwasanaethau cymdeithasol ac
iechyd, a bydd yr asesiad anghenion rhanbarthol yn helpu i nodi meysydd
blaenoriaeth ar gyfer darparu gwasanaethau lleol integredig a fyddai’n cynnwys
prosiectau rhanbarthol ac isranbarthol.
·
Bydd
y Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod arian ffrydiau cyllido Llywodraeth Cymru yn
cael ei ddosbarthu’n deg ac yn briodol er budd y rhanbarth.
·
Bydd
mudiadau trydydd sector hefyd yn cael eu cynrychioli ac yn dod yn bartneriaid
statudol pan fydd y Bwrdd ffurfiol wedi ei sefydlu.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) yn cymeradwyo cynigion Bwrdd Cysgodol y
Bartneriaeth Rhanbarthol i sefydlu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn amodol
ar ddeialog dwy ffordd barhaus rhwng y Bwrdd a phartneriaid ar y rhaglen waith
a threfniadau gweithredu ar gyfer y Bwrdd;
(b) yn enwebu ei gyfarwyddwr statudol a’i
aelod arweiniol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol i eistedd ar y Bwrdd, ac
(c) yn cefnogi'r opsiwn strwythurol lle -
(i)
mae Grŵp Arweinyddiaeth o
Swyddogion yn cefnogi'r Bwrdd drwy ddarparu cyngor strategol a chyfarwyddo
gwaith gweithredol.
(ii) mae'r Bwrdd yn gweithio mewn partneriaeth â threfniadau ardal i gyflwyno
gwasanaethau integredig a chyllidebau cyfunol (lle bo'n briodol).