Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A PRIVATE HIRE VEHICLE LICENCE
Cyfarfod: 08/06/2016 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 11)
11 CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer Trwydded Hurio
Preifat.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael
ei ganiatáu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –
(i)
chais
a ddaeth i law am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;
(ii)
nid
oedd swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais, gan nad oedd y cerbyd
a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu’n cydymffurfio â'r fanyleb, fel y manylir yn
Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y Cyngor, ac
(iii)
estyn
gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i gyflwyno’r
cerbyd i'r aelodau ei archwilio.
Roedd yr Ymgeisydd
yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r
pwyllgor.
Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu’r adroddiad a gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried a fyddai'n
briodol i wyro oddi wrth bolisi'r Cyngor ynglŷn â manylebau cerbydau, er
mwyn caniatáu'r cais fel y gwnaed cais amdano.
Dywedodd yr Ymgeisydd bod gan y cerbyd dan sylw filltiredd isel iawn o
ystyried ei oedran ac roedd mewn cyflwr rhagorol. Yn dilyn pleidlais, gohiriwyd y cyfarfod er
mwyn galluogi'r aelodau i weld y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu. Wedi ailddechrau'r trafodion, ymatebodd yr
Ymgeisydd i gwestiynau ynghylch rhinweddau trwyddedu'r cerbyd o ystyried ei
gyflwr perffaith, a'i fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Nodwyd nad oedd y cerbyd yn addas ar gyfer
trwyddedu fel cerbyd hacni o ystyried y mesuriadau clirio rhwng seddi, ond
roedd hurio preifat yn opsiwn. Mewn
ymateb i bryderon ynglŷn â chyflwr strwythurol y cerbyd, dywedodd y
Peiriannydd Cydymffurfiaeth Fflyd fod cerbydau trwyddedig angen prawf MOT
sylfaenol a phrawf Cydymffurfio bob chwe mis, a dylid eu cynnal yn
briodol. Darparodd yr Ymgeisydd sicrwydd
ynghylch trefn cynnal a chadw’r cerbydau.
Atgoffwyd yr aelodau bod rhaid i bob cais gael ei drin yn ôl ei
rinweddau ei hun.
Yn y fan hon, cafodd y
pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a -
PHENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael
ei ganiatáu.
Dyma oedd y rhesymau
dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –
Roedd yr Aelodau’n
ystyried bod y cerbyd mewn cyflwr eithriadol o dda ac yn briodol i’w drwyddedu,
a phenderfynwyd caniatáu'r drwydded.
Cafodd penderfyniad y
pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.