Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION FOR A PRIVATE HIRE VEHICLE LICENCE

Cyfarfod: 08/06/2016 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 11)

11 CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer Trwydded Hurio Preifat. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a ddaeth i law am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          nid oedd swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais, gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu’n cydymffurfio â'r fanyleb, fel y manylir yn Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y Cyngor, ac

 

(iii)         estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i gyflwyno’r cerbyd i'r aelodau ei archwilio.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad a gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried a fyddai'n briodol i wyro oddi wrth bolisi'r Cyngor ynglŷn â manylebau cerbydau, er mwyn caniatáu'r cais fel y gwnaed cais amdano.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd bod gan y cerbyd dan sylw filltiredd isel iawn o ystyried ei oedran ac roedd mewn cyflwr rhagorol.  Yn dilyn pleidlais, gohiriwyd y cyfarfod er mwyn galluogi'r aelodau i weld y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu.  Wedi ailddechrau'r trafodion, ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau ynghylch rhinweddau trwyddedu'r cerbyd o ystyried ei gyflwr perffaith, a'i fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn.  Nodwyd nad oedd y cerbyd yn addas ar gyfer trwyddedu fel cerbyd hacni o ystyried y mesuriadau clirio rhwng seddi, ond roedd hurio preifat yn opsiwn.  Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â chyflwr strwythurol y cerbyd, dywedodd y Peiriannydd Cydymffurfiaeth Fflyd fod cerbydau trwyddedig angen prawf MOT sylfaenol a phrawf Cydymffurfio bob chwe mis, a dylid eu cynnal yn briodol.  Darparodd yr Ymgeisydd sicrwydd ynghylch trefn cynnal a chadw’r cerbydau.  Atgoffwyd yr aelodau bod rhaid i bob cais gael ei drin yn ôl ei rinweddau ei hun.

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau’n ystyried bod y cerbyd mewn cyflwr eithriadol o dda ac yn briodol i’w drwyddedu, a phenderfynwyd caniatáu'r drwydded.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.