Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION

Cyfarfod: 08/06/2016 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 8)

8 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 16/0374/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif  16/0374/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  14/0985 / TXJDR yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

16/0374/TXJDR am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r collfarnau a ddatguddiwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd rhwng 1986 a 2007, gyda’r rhan fwyaf heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd;

 

(iii)         polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, ac

 

(iv)         estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd ei reswm dros beidio â datgelu euogfarnau hanesyddol heb unrhyw fwriad i gamarwain.  Rhoddodd rywfaint o gyd-destun i’r euogfarnau hynny ac roedd yn edifar yn fawr am ei orffennol.  Cyfeiriodd yr Ymgeisydd at ei amgylchiadau a chyfrifoldebau personol cyfredol, a sut mae ei fywyd wedi newid.  Cafwyd tystlythyrau a oedd yn dyst o’i gymeriad da a rhoddodd sicrwydd pellach i'r aelodau ynglŷn a’i ymddygiad cyfredol a'r dyfodol.  Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau'r aelodau ynghylch natur ei euogfarnau, ei ffordd o fyw ar hyn o bryd ac amgylchiadau sydd wedi newid, a’i hanes cyflogaeth.  Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, ategodd faint roedd ei fywyd wedi newid dros y degawd diwethaf, yn destament i'w gymeriad da cyfredol.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  16/0374/TXJDR yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr aelodau wedi cymryd i ystyriaeth fod yr euogfarnau’n hanesyddol yn bennaf, ac fe dderbyniwyd yr eglurhad a roddwyd gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â'r euogfarnau hynny.  Roedd yr Aelodau hefyd yn meddwl bod yr Ymgeisydd wir yn edifar am ei orffennol ac wrth ymateb i'w cwestiynau.  Y farn oedd bod yr Ymgeisydd wedi dangos, drwy ei anerchiad i'r pwyllgor a'i dystlythyr ysgrifenedig, ei fod wedi newid ei ffordd o fyw ac roedd ganddo gymeriad da.  O ganlyniad, cafwyd bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Fodd bynnag, o ystyried ei euogfarnau hanesyddol, fe’i hystyriwyd yn briodol hefyd ar ran yr Ymgeisydd i roi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

Yn y fan hon (10.25 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.