Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 15/0427/TXJDR

Cyfarfod: 24/03/2016 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 4)

4 ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0427/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0427/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif  15/0427/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/0427/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol wrth ymgymryd â chontract cludiant ysgol;

 

(ii)          manylion ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi (roedd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad);

 

(iii)         y Gyrrwr wedi cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r adolygiad o'i drwydded a oedd wedi'i gynnwys fel atodiad i'r adroddiad, a

 

(iv)         bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod yng nghwmni ei Gynrychiolydd Undeb a chyd-dyst.  Cadarnhaodd y Cynrychiolydd Undeb dderbyn yr adroddiad a'r gweithdrefnau pwyllgor.

 

Amlinellodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu yr achos fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Cyflwynodd y Cynrychiolydd Undeb achos y Gyrrwr.  Dywedodd nad oedd y datganiadau tystion wedi’u teipio a gyflwynwyd gan y Swyddog Ymchwilio wedi cael eu llofnodi a gofynnodd am iddynt gael eu diystyru.  Cyflwynodd hefyd nad oedd yr ymchwiliad wedi cael ei gynnal mewn modd teg ac agored gan amlygu lle roedd yn ystyried bod yna feysydd o ragfarn o fewn yr achos.  Dadleuwyd nad oedd llwybrau ymholiadau penodol a allai fod wedi bod o blaid y Gyrrwr wedi cael eu dilyn a chwestiynwyd hefyd hygrededd tystiolaeth benodol.  Cyflwynwyd hefyd sylwadau ynglŷn â safon y dystiolaeth sy'n ofynnol mewn achosion o'r fath o ystyried bod yr hawl i apelio trwy’r Llys Ynadon.  O ran yr honiadau a nodwyd yn yr adroddiad, eglurodd y Cynrychiolydd Undeb yr honiadau hynny a gyfaddefwyd gan y Gyrwyr a'u rhoi mewn cyd-destun, gan roi fersiwn y Gyrrwr o’r digwyddiadau.  Cafodd y pwyllgor hefyd wybod am yr honiadau a wadwyd gan y Gyrwyr.  Amlygwyd nad oedd unrhyw gwynion wedi’u gwneud yn erbyn y Gyrrwr gan ddefnyddwyr gwasanaeth eraill neu'r cyhoedd.  O ystyried y dystiolaeth wrthgyferbyniol a gyflwynwyd a’r  gefnogaeth a fynegwyd yn y geirdaon (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gofynnodd y Cynrychiolydd Undeb i’r Gyrrwr gael cadw ei drwydded a pharhau fel gyrrwr trwyddedig.

 

Ar y pwynt hwn trafodwyd y mater o ddatganiadau tystion heb eu harwyddo, a dosbarthwyd copïau o'r datganiadau tyst gwreiddiol wedi’u llofnodi. Dadleuodd y Cynrychiolydd Undeb nad oedd wedi cael y cyfle i edrych ar y dogfennau a gofynnodd am iddynt gael eu diystyru er budd gwrandawiad teg.  Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd safbwynt cyfreithiol ar y sefyllfa a thegwch y trafodion.  Cadarnhaodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu bod y datganiadau wedi cael eu teipio i sicrhau eu bod yn ddarllenadwy a’u bod wedi cael ei gwirio am gywirdeb.  Torrodd y pwyllgor i ystyried y dadleuon cyfreithiol.  Ar ôl ailddechrau'r trafodion dywedwyd wrth bawb am benderfyniad y pwyllgor i dderbyn y datganiadau fel tystiolaeth a pharhau â’r achos.  Nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod annhegwch sylweddol ar y sail y rhoddwyd sicrwydd gan y Swyddog Gorfodi Trwyddedu, a oedd â dyletswydd o onestrwydd i'r pwyllgor, bod y fersiynau a deipiwyd wedi'u trawsgrifio’n gywir a bod yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y datganiadau wedi bod ar gael ymlaen llaw a gallent fod wedi eu hegluro yn gynharach yn y broses.  Wrth wneud eu penderfyniad roedd y pwyllgor hefyd wedi ystyried cyngor gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd ynglŷn â safon y dystiolaeth ofynnol.  Eglurwyd bod penderfyniad y pwyllgor ynghylch a oedd y Gyrrwr yn berson addas a phriodol i ddal trwydded yn seiliedig ar yr  ...  view the full Cofnodion text for item 4