Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

AWARD OF LOCAL BUS SERVICE CONTRACT

Cyfarfod: 16/02/2016 - Cabinet (Eitem 13)

13 DYFARNU CONTRACT GWASANAETH BWS LLEOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract gwasanaeth bws lleol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu'r contract gwasanaeth bws lleol i'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract gwasanaeth bws lleol yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Contract i’r tendrwr mwyaf manteisiol yn economaidd.

 

Tendrodd y Swyddogion ystod o ddewisiadau a bu modd i’r cyflenwyr gynnig am gontractau unigol neu ddau gontract neu’n fwy gyda’i gilydd. Y contract mwyaf manteisiol yn economaidd i’r cyngor wrth gynnal gwasanaethau cyn agosed â phosibl i’r rhai presennol o fewn y gyllideb sydd ar gael. Roedd newid allweddol yn ymwneud â dargyfeirio rhai adnoddau i weithredu rhwng Corwen a Wrecsam a gafodd ei gynnig yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Diolchodd y Cynghorydd Huw Jones i’r Rheolwr Cludiant Teithwyr am ei holl waith caled yn hyn o beth a gofynnodd fod cyfarfod o’r Fforwm Defnyddwyr Bws yn cael ei drefnu ar ôl rhoi’r newidiadau ar waith er mwyn adolygu’r trefniant newydd a sicrhau ei fod yn gweithio’n dda.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarniad y contract gwasanaeth bws lleol i’r tendrwr mwyaf manteisiol yn economaidd fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40 p.m.