Mater - cyfarfodydd
UPDATE ON THE GYPSY AND TRAVELLER ACCOMMODATION ASSESSMENT
Cyfarfod: 16/02/2016 - Cabinet (Eitem 10)
10 DIWEDDARIAD AM ASESIAD LLETY SIPSIWN A THEITHWYR PDF 94 KB
Ystyried
adroddiad ac atodiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Barbara Smith,
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno'r
Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr i gael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru ac
yn gofyn am gymeradwyaeth i ddefnyddio ymagwedd ranbarthol tuag at chwilio am
safleoedd i gwrdd ag unrhyw ddarpariaeth y bydd eu hangen yn y dyfodol.
Dogfennau ychwanegol:
- GYPSY TRAVELLER ACCOMMODATION - APP 1 , View reasons restricted (10/2)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo:-
(a) Asesiad Llety
Sipsiwn a Theithwyr i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a
(b) defnyddio
ymagwedd ranbarthol at chwilio am safleoedd i gwrdd ag unrhyw ddarpariaeth sydd
eu hangen yn y dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad
yn amlinellu canfyddiadau Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2016 ar gyfer Sir
Ddinbych (ynghlwm fel atodiad cyfrinachol i’r adroddiad) a cheisiodd
gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r Asesiad i Lywodraeth Cymru ac i ddefnyddio
dull rhanbarthol o chwilio am safleoedd i fodloni unrhyw ddarpariaeth
angenrheidiol i’r dyfodol.
Roedd gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i
gynnal asesiad a darparu ar gyfer safleoedd pan oedd angen wedi’i nodi. Galwodd
asesiad cynharach yn 2013 am safle tramwy ar y cyd i Gonwy a Sir Ddinbych
oherwydd bod cyfran uchel o wersyllu anawdurdodedig yn digwydd yng ngogledd y
sir ger y ffin. Cynhaliwyd asesiad ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy ond byddai dogfennau ar wahân yn cael eu cyflwyno. Casglodd yr asesiad
fod angen safle tramwy neu fan stopio yng ngogledd y sir ac roedd angen i’r
Cyngor fynd i’r afael â’r angen hwnnw.
Yn ystod y ddadl a ddilynodd, codwyd cwestiynau mewn perthynas â’r
cyfrifoldebau statudol ar awdurdodau lleol, y camau nesaf yn y broses, ac a
fyddai unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i alluogi awdurdodau i
fodloni eu rhwymedigaethau statudol. Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y darpariaethau dan Ddeddf Tai
(Cymru) 2014 mewn perthynas â Llety Sipsiwn a Theithwyr a nodwyd bod rhai
rhannau o’r Ddeddf, yn enwedig o ran sancsiynau i fethu bodloni unrhyw angen a
nodwyd, heb fod mewn grym eto. Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu a Pholisi
ar y bwriad i gydweithio gyda Chonwy i nodi safle addas a chynghorodd bod
cyllid cyfyngedig Llywodraeth Cymru ar gael ond nad oedd yn cwmpasu costau
caffael y safle. Er mwyn gwneud cais am gyllid, roedd angen caniatâd cynllunio
ar safle wedi’i gaffael a chael cynllun prosiect manwl ar waith. Roedd gan
Gonwy un safle parhaol ac roedd wedi clustnodi safle tramwy ond roedd y
sefyllfa ddiweddaraf yn aneglur oherwydd y gwrthwynebiad lleol. Petai safle
tramwy’n cael ei ddarparu, byddai gan y cyngor y grym i symud gwersyllfannau
anawdurdodedig i’r safle hwnnw. Byddai’r angen dynodedig ar draws Cymru’n
hysbys pan fydd yr holl asesiadau wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo –
(a) cyflwyno Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth
Cymru, a
(b) defnyddio
dull rhanbarthol o chwilio am safleoedd i fodloni unrhyw ddarpariaeth
angenrheidiol i’r dyfodol.