Mater - cyfarfodydd
RECOMMENDATIONS OF THE STRATEGIC INVESTMENT GROUP
Cyfarfod: 16/02/2016 - Cabinet (Eitem 8)
8 ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 116 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth
y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun
Cyfalaf 2016/17.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
☻PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 o'r
adroddiad i'w gynnwys yn y Cynllun Cyfalaf 2016/17 yn cael ei gefnogi a’i
argymell i'r Cyngor llawn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio
cefnogaeth y Cabinet o brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf
2016/17 fel a argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylwyd yn
Atodiad 1 i’r adroddiad.
Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau trwy’r adroddiad ac
ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer buddsoddiad cyfalaf i brosiectau
un tro a dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus. Cyfeiriwyd at waith
y Grŵp Buddsoddi Strategol wrth adolygu ceisiadau am ddyraniadau a
darparwyd crynodeb o’r argymhellion. Yn sgil bod cyllid cyfalaf annigonol ar
gael i gwmpasu pob prosiect, gwnaed nifer o ddyraniadau dros dro yn amodol ar
werthu asedau.
Mewn ymateb i gwestiynau, gwnaeth y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill –
·
esbonio’r broses benthyca
ddarbodus sy’n cynghori bod angen i’r cyngor ddibynnu’n fwyfwy ar ei adnoddau
ei hun i fuddsoddi yn sgil y gostyngiad parhaus yng ngwerth go iawn setliadau
cyfalaf Llywodraeth Cymru
·
cadarnhau bod cynigion cynnal
cyfalaf ysgolion a heb fod i ysgolion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnal a
chadw hanfodol megis gwaredu asbestos. Ymhelaethodd y Cynghorydd Eryl Williams
ar brif sefyllfa’r Cyngor o ran troi at gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif i
fuddsoddi mewn adeiladau a chyfleusterau ysgolion fel rhan o’r agenda
moderneiddio ysgolion
·
dweud bod y cynigion am waith
Priffyrdd yn cynnwys gwelliannau i ffyrdd a phontydd, goleuadau strydoedd a
diogelwch ffyrdd a blaenoriaethwyd y dyraniadau ar sail angen - rhoddodd y
Cynghorydd David Smith wybod bod gwariant ar gynlluniau unigol wedi’u trafod
gan Grwpiau Ardal Aelodau ac awgrymwyd mynd i’r afael ag unrhyw
gwestiynau/pryderon yn hyn o beth yn y fforwm hwnnw neu eu codi’n uniongyrchol
gyda’r Gwasanaeth Priffyrdd.
PENDERFYNWYD bod y prosiectau y manylir arnynt yn Atodiad 1
i’r adroddiad i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2016/17 yn cael eu cefnogi a’u
hargymell i’r Cyngor llawn.