Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 16/02/2016 - Cabinet (Eitem 5)
☻I
ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd
arni.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - APP 1, Eitem 5 PDF 45 KB
- FINANCE REPORT - APP 2, Eitem 5 PDF 220 KB
- FINANCE REPORT - APP 3, Eitem 5 PDF 16 KB
- FINANCE REPORT - APP 4, Eitem 5 PDF 253 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
-
(a)
nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb;
(b) yn cymeradwyo
dyrannu £4.8m wrth gefn i gefnogi cynlluniau Glasdir ac Ysgol Carreg Emlyn o
fewn y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, i'w ariannu drwy ryddhau cyllidebau
refeniw o fewn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion;
(c) cymeradwyo dileu
dyledion sy'n ddyledus gan The Scala Company Limited Prestatyn cyfanswm o
£140k, a
(d) cymeradwyo
dyraniad o £1.5m o'r adolygiad o ddarpariaethau’r fantolen a’r argyfyngau yn y
flwyddyn i’r Cynllun Cyfalaf.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad sy’n rhoi
manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth gytûn
y gyllideb. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -
·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.418m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol
·
cyflawnwyd
91% o arbedion cytûn hyd yma (targed £7.3m) a rhagwelwyd bod mwyafrif yr
arbedion sy’n weddill yn cael eu cyflawni erbyn 2016/17 fan hwyraf
·
amlygwyd
amrywiadau allweddol o dargedau cyllidebau neu arbedion yn ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol, a
·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).
Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo treuliau
annisgwyl o £4.8m i gefnogi cynlluniau Glasdir ac Ysgol Carreg Emlyn; £1.5m i’r
Cynllun Cyfalaf ynghyd â dileu’r £140,000 o ddyledion sy’n ddyledus gan The
Scala Prestatyn Company Limited.
Codwyd y materion canlynol yn ystod y ddadl –
·
canmolodd y Cabinet y
buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau cyfalaf mawrion, yn enwedig o gofio’r
cyfnod ariannol anodd, oedd yn cynnwys buddsoddiadau mewn Ysgolion, Glan Môr y
Rhyl, Datblygiad Nova a Chynllun Datblygu Arfordirol Gorllewin y Rhyl, a
llongyfarchodd bawb oedd ynghlwm â’r prosiectau hynny
·
amlygwyd hefyd y buddsoddiad
ym mhrosiect Ysgolion 21ain Ganrif Ysgolion Cynradd Rhuthun ac roedd yr
aelodau’n falch o nodi bod cynlluniau Glasdir ac Ysgol Carreg Emlyn ar y
trywydd iawn i gael eu cyflawni ym mis Medi 2017 ac ychwanegwyd diweddariad ar
y prosiectau hynny at adroddiad cyllid rheolaidd y Cabinet. Cytunwyd, o ran
Glasdir, gyfeirio yn y dyfodol at ‘safle ar y cyd’ yn wahanol i ‘ysgol ar y
cyd’ er mwyn dynodi’r ddwy ysgol ar y safle
·
yn dilyn cadarnhad o ffigurau
terfynol diwedd y flwyddyn, byddai’r driniaeth o danwariant yn cael ei
hystyried gan y Cabinet yn yr adroddiad alldro ariannol - rhagwelwyd y byddai
sawl gwasanaeth yn cadw eu tanwariant i barhau gyda phrosiectau arfaethedig yn
y flwyddyn ariannol nesaf
·
cadarnhawyd
bod y Cynllun Corfforaethol yn rymus ac, ar sail y tybiaethau presennol, roedd
adnoddau yn eu lle i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni
·
trafodwyd
effaith andwyol tywydd difrifol ar y priffyrdd hefyd a’r gwaith cynnal a chadw
ffyrdd ychwanegol angenrheidiol o ganlyniad i lifogydd – ceisiwyd cyllid
Llywodraeth Cymru ond os nad oedd cyllid allanol ar gael, byddai’r gwaith
angenrheidiol yn cael ei ariannu gan y Gronfa Tywydd Difrifol
·
cyfrannodd
yr oedi mewn gwaith prosiect a newidiadau yn y dull cynllunio busnes at
danwariant yn y gwasanaeth Datblygu Economaidd a Busnes a rhoddwyd sicrwydd
mewn perthynas â’r bwriad i gario cyllid ymlaen yn y flwyddyn ariannol nesaf i
symud y prosiectau arfaethedig hynny ymlaen.
PENDERFYNWYD bod y
Cabinet –
(a) yn nodi’r cyllidebau a
osodwyd ar gyfer 2015/16 a symud ymlaen yn erbyn y strategaeth gyllideb gytûn;
(b) yn cymeradwyo’r dyraniad o
dreuliau annisgwyl o £4.8m i gefnogi cynlluniau Glasdir ac Ysgol Carreg Emlyn
yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a fydd yn cael ei ariannu trwy ryddhau
cyllidebau refeniw o fewn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion cyffredinol.
(c) yn cymeradwyo dileu
dyledion sy’n ddyledus gan The Scala Prestatyn Company Limited sy’n gwneud
cyfanswm o £140,000 ac yn
(d) cymeradwyo’r dyraniad o £1.5m o adolygiad
darpariaethau’r fantolen a threuliau annisgwyl yn y flwyddyn i’r Cynllun
Cyfalaf.