Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 16/02/2016 - Cabinet (Eitem 4)
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 12 Mehefin 2016 (copi’n amgaeedig).
Penderfyniad:
☻PENDERFYNWYD
y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2016 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu
llofnodi.
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2016.
Tudalen 9 – Eitem 6: Cyllideb 2016/17 (Cynigion
Terfynol – Cam 6) gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am ddiweddariad ar
ddyraniadau grant ers y cyfarfod diwethaf a thynnodd sylw at yr angen i’r
cyngor gofnodi’r dyraniadau hynny, gan gynnwys toriadau i gyllid grant, at
ddibenion tryloywder. Cadarnhawyd na wnaeth y Gweinidog unrhyw gyhoeddiadau
pellach o ran dyraniadau grant a oedd yn tueddu i gael eu talu’n raddol dros
gyfnod o fisoedd. O ran awdurdodau gwledig oedd wedi bod yn destun mwy o
doriadau o ganlyniad i setliad drafft y llywodraeth leol, mae cyllid wedi bod
ar gael o gronfeydd Llywodraeth Cymru ers hynny.
PENDERFYNWYD
cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2016 fel gwir gofnod
ac fe’u harwyddwyd gan yr Arweinydd.