Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 24/11/2015 - Cabinet (Eitem 6)
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedif) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - APP 1, Eitem 6 PDF 45 KB
- FINANCE REPORT - APP 2, Eitem 6 PDF 220 KB
- FINANCE REPORT - APP 3, Eitem 6 PDF 19 KB
- FINANCE REPORT - APP 4, Eitem 6 PDF 178 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghoyrdd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn
manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth
gyllideb y cytunwyd arni. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a
ganlyn -
·
rhagwelid
tan wariant net o £0.298m i’r cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol
·
cyflawnwyd
91% o’r arbedion y cytunwyd arnynt hyd yma (targed £7.3m) a rhoddwyd manylion
hefyd am y cynnydd tuag at gyflawni’r 9% sy’n weddill
·
tynnwyd
sylw at amrywiannau allweddol o’r cyllidebau neu’r targedau arbedion a oedd yn
gysylltiedig â meysydd gwasanaeth unigol, a
·
chafwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a’r
Cynllun Cyfalaf (yn cynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).
Codwyd y materion canlynol mewn trafodaeth –
·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Eryl Williams at y polisi o gynnig hen adeiladau ysgol i’r gymuned
leol fel dewis cyntaf ond tynnodd sylw at nifer yr adeiladau ysgol sy’n wag ers
tro erbyn hyn a’r costau sydd ynghlwm â hyn – felly roedd gwaith ar y gweill i
dynhau’r polisi a sicrhau nad oedd y cynnig i’r gymuned yn aros yn benagored
·
Eglurodd y Cynghorydd David
Smith oblygiadau’r gostyngiadau yn incwm ffioedd gan Asiantaeth Cefnffyrdd
Gogledd a Gorllewin Cymru a’r dyraniad buddsoddiad a lefel y gwaith yn yr ardal
hon. Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones fod yr A5 yn arbennig angen buddsoddiad
·
Cyfeiriwyd
at y cynnydd a wnaed i gyflawni’r 9% (£638k) o arbedion sy’n weddill ar gyfer
2015/16 gyda rhai i’w cyflawni yn 2016/17 – byddai unrhyw ddiffyg a achosir gan
oedi mewn gweithredu yn cael ei gwrdd gan ffynonellau eraill yn y gwasanaethau
dan sylw.
Ymatebodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill hefyd i gwestiynau a godwyd
gan aelodau nad oeddent yn y Cabinet, fel a ganlyn -
·
gwnaed
oddeutu £900 o arbedion drwy beidio â thalu costau teithio i aelodau oedd yn
mynd i gyfarfodydd fel arsyllwyr
·
roedd
y cytundeb fframwaith a ddefnyddir ar gyfer athrawon llanw wedi cyflwyno
arbedion
·
manylodd ar y risgiau sy’n dod
i’r amlwg ynghylch rhwymedigaethau’r cyngor sy’n gysylltiedig â hawliadau hanesyddol i’r cyn Mutual Municipal Insurance
Company
·
dywedodd fod datganiad i’r
wasg wedi’i wneud am fanteision terfynu’r cytundeb PFI ond bod y telerau
penodol yn aros yn gyfrinachol - yn ogystal ag arbedion sylweddol, rodd y prynu
allan yn rhoi mwy o hyblygrwydd dros yr adeiladau a’r meysydd parcio ac roedd
gwaith wedi dechrau ar archwilio posibiliadau i’w ddefnyddio yn y dyfodol.
Adroddodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei bod yn paratoi taflenni i’r preswylwyr
lleol i’w diweddaru am y prynu PFI allan a materion cysylltiedig wrth iddynt
fynd rhagddynt
·
cadarnhawyd
y byddai unrhyw rewi rhent yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith ac
y byddai’n cael ei gynnwys yng nghyllideb y Cyfrif Refeniw Tai.
Adroddodd y Prif Weithredwr ar y sefyllfa ariannol gymharol iach yn y
cyfnod hwn yn y flwyddyn ariannol a’i fod yn hyderus o gael cyllideb
fantoledig. Cyfeiriodd at Ddatganiad Ariannol yr Hydref a oedd ar fin digwydd
a’r goblygiadau i Gymru a mynegodd bryderon y gallai llywodraeth leol golli
allan i elfennau eraill o’r sector cyhoeddus.
PENDERFYNWYD fod y
Cabinet yn nodi’r cyllidebau a osodwyd ar gyfer 2015/16 a’r cynnydd a wnaed yn
erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni.