Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 24/11/2015 - Cabinet (Eitem 4)
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2015 (copi’n amgaeedig).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2015 fel cofnod cywir a’u
llofnodi gan yr Arweinydd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 27 Hydref 2015.
Materion yn Codi – Tudalen 6, Eitem 5: Cynigion yn
gysylltiedig ag Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn – adroddodd y Pennaeth
Cyfreithiol, AD a Gwasanaethau Democrataidd ar alw i mewn y penderfyniad ar yr
eitem hon a gafodd ei hystyried gan y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar 16 Tachwedd 2015. Roedd
cynnig i gyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet wedi cael ei drechu ac mae
penderfyniad y Cabinet yn sefyll.
Cydnabu’r
Cynghorydd Eryl Williams fod craffu yn rhan annatod o’r broses a chafwyd
rhywfaint o drafodaeth am sut y gallai’r Cabinet a Chraffu weithio’n well
gyda’i gilydd i sicrhau fod craffu ar faterion pwysig yn fwy effeithiol.
Awgrymwyd cyfeirio’r mater hwn at Grŵp y Cadeiryddion a’r Is-Gadeiryddion
Craffu i’w ystyried ymhellach.
PENDERFYNWYD fod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2015 yn cael eu cymeradwyo fel
rhai cywir a’u llofnodi gan yr Arweinydd.