Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 28/06/2016 - Cabinet (Eitem 9)

9 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 173 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        cyllideb refeniw y Cyngor ar gyfer 2016/17 heb unrhyw amrywiannau i adrodd ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol

·        cytunwyd ar arbedion o £5.2m yn fel rhan o'r gyllideb ac yn y cyfnod cynnar hwn mae 42% eisoes wedi ei gyflawni, gyda 25% arall yn gwneud cynnydd da; roedd nifer o arbedion yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a byddai'r canlyniadau'n cael eu cynnwys mewn adroddiadau monitro yn y dyfodol

·        amlinellwyd nifer o bwysau o fewn y gyllideb gyffredinol y mae angen i wasanaethau penodol gymryd camau rheoli arnynt

·        diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE i adael yr UE, rhoddwyd sicrwydd bod rheolaeth trysorlys y Cyngor yn cael ei fonitro'n agos ac nid oedd llawer o berygl i brosiectau y cytunwyd arnynt yn y Cynllun Cyfalaf o ystyried bod cyllid eisoes wedi'i ddyrannu.  Roedd risgiau sy'n deillio o grantiau refeniw a ategwyd atynt gan arian yr UE yn gyfyngedig o ystyried yr amseru rhwng cylchoedd ariannu'r UE.  Roedd cyfarfod rhwng Trysoryddion Cymru yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn yr wythnos i drafod yr effaith ar gyllid yn y dyfodol.  Cytunwyd i drafod y mater ymhellach unwaith y byddai’r  sefyllfa’n dod yn fwy hysbys.

 

Mewn ymateb i gwestiynau dywedwyd wrth yr aelodau byddai'r ganran o arbedion heb eu cyflawni yn 2015/16 yn debygol o gael eu cyflawni yn 2016/17 a’u bod o ganlyniad i broblemau o ran amseru.  Roedd cynllun wrth gefn ar waith i ryddhau'r arbedion hynny'n llif arian parod.  Roedd gwaith pellach yn cael ei wneud ar yr arbedion sy'n weddill, ac yn dilyn hynny byddai diweddariad yn cael ei ddarparu.  O ran rheoli trysorlys, roedd y gyfradd enillion ar fuddsoddiadau wedi bod yn gyson yn llai nag 1% dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.