Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

FINAL REVENUE OUTTURN 2014/15

Cyfarfod: 30/06/2015 - Cabinet (Eitem 11)

11 ALLDRO REFENIW TERFYNOL 2014/15 pdf eicon PDF 104 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi amgaeedig) am y sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2014/15 a bwriad i ymdrin â chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2014/15 ac yn cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylwyd yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 a 2 sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y sefyllfa alldro refeniw terfynol am 2014/15 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau.  Yn gryno dangosodd y sefyllfa alldro  gyffredinol danwariant yn erbyn y gyllideb gymeradwy a oedd yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor, ynghyd â gwell incwm o'r dreth gyngor nag y rhagwelwyd.  O ganlyniad bu'n bosibl gwneud argymhellion i wasanaethau ddwyn balansau ymlaen a gwneud trosglwyddiadau i gronfeydd wrth gefn penodol a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â phwysau ariannol yn y dyfodol a bodloni ymrwymiadau arian parod sydd eu hangen i gyflawni’r Cynllun Corfforaethol.  Y sefyllfa derfynol gyda chyllidebau corfforaethol a gwasanaeth oedd tanwariant o £1.075m a oedd yn 0.57% o gyllideb refeniw net.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol -

 

·         esboniwyd y rhesymeg y tu ôl i greu cronfeydd wrth gefn penodol, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn cynnwys uchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn y galw ar becynnau gofal a lleoliadau.  O ran Cefnogi Pobl, crëwyd y gronfa wrth gefn hon er mwyn lliniaru’r bygythiad o ddileu Grant Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru – rhoddwyd sicrwydd bod cronfeydd wrth gefn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd

·         dyrannwyd grantiau a dderbynnir gan y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i ddechrau i Grantiau Refeniw Heb eu Cymhwyso cyn cael eu prosesu a’u hailgyfeirio i wasanaethau unigol – roedd hyblygrwydd yn ystod y flwyddyn ac roedd rhai grantiau wedi'u haildyrannu’n gynharach yn y flwyddyn

·         nodwyd bod cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi wedi'u hystyried fel rhan o'r gweithdai cyllideb a’u bod yn cael eu hailasesu’n rheolaidd a'u hadolygu'n flynyddol.  Er mwyn gwneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol, roedd y Cynghorydd Eryl Williams wedi gofyn am adroddiad mwy manwl a oedd yn dangos ffigurau hanesyddol a rhagamcanion y dyfodol gyda golwg ar nodi tueddiadau

·         byddai gwaith yn cael ei wneud yn fuan i adolygu polisi cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn dilyn y gofyniad bod holl awdurdodau lleol Cymru yn cyhoeddi manylion am eu triniaeth o gronfeydd wrth gefn mewn modd haws i’w ddeall – awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru hefyd fod yn fwy agored a thryloyw ynghylch eu cronfeydd wrth gefn ac y codir y mater gyda nhw pan fydd y cyfle’n codi

·         o ran ariannu ar gyfer y Cynllun Corfforaethol a chadarnhawyd hynny, yn seiliedig ar dybiaethau cyfredol, roedd yn fforddiadwy ac yn gyflawnadwy – byddai unrhyw newidiadau yn y tybiaethau hynny yn gofyn am adolygiad pellach ac fe'i cydnabuwyd nad oedd y Cyngor mewn rheolaeth gyffredinol dros yr holl elfennau o fewn y cynllun

·         o ran balansau’r ysgolion mewn diffyg, rhoddwyd sicrwydd bod pob ysgol â chynllun adennill ariannol ar waith.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r sefyllfa alldro refeniw terfynol ar gyfer 2014/15 ac yn cymeradwyo’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 a 2 ynghlwm wrth yr adroddiad.