Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

CONCLUSIONS AND RECOMMENDATIONS FROM AFFORDABLE HOUSING TASK & FINISH GROUP

Cyfarfod: 30/06/2015 - Cabinet (Eitem 7)

7 CASGLIADAU AC ARGYMHELLION GAN Y GRŴP TASG A GORFFEN TAI FFORDDIADWY pdf eicon PDF 123 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus a Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd (copi amgaeedig) yn ceisio cefnogaeth ar gyfer casgliadau ac argymhellion Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r casgliadau a'r argymhellion a gytunwyd arnynt gan y Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy (gweler Atodiad 1 yr adroddiad) i'w datblygu drwy'r Strategaeth Dai a'r Cynllun Cyflawni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith adroddiad i geisio cymeradwyaeth o gasgliadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy.  Sefydlwyd y grŵp i adolygu dull y Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy a byddai ei argymhellion yn llywio'r Strategaeth Tai ac yn cael eu hadlewyrchu yn strategaethau, cynlluniau a chanllawiau’r Cyngor fel y bo'n briodol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol -

 

·         rhoddwyd sicrwydd y byddai rhagor o fanylion ac amserlenni i ddatblygu argymhellion yn cael eu cymryd ymlaen trwy'r Strategaeth Tai

·         cafwyd rhywfaint o rwystredigaeth, oherwydd deddfwriaeth genedlaethol, ni fyddai'n bosibl symud rhai argymhellion ymlaen mor sydyn ag y byddai Aelodau’n ei hoffi

·         roedd llawer o drafodaeth yn canolbwyntio ar y broblem o 'fancio tir' lle methodd datblygwyr a thirfeddianwyr fwrw ymlaen â datblygiad yn dilyn caniatâd cynllunio ac yn aros i werthoedd tir gynyddu.  Roedd gan y Cyngor ychydig o reolaeth dros yr amserlen ar gyfer dechrau datblygiadau ond ni allent gymryd unrhyw gamau mewn achosion lle’r oedd datblygiad wedi dechrau yn unol â chaniatâd cynllunio ond heb symud ymlaen – roedd yr agwedd hon yn cael ei rheoli gan ddeddfwriaeth genedlaethol.  Cytunwyd bod Llywodraeth Cymru yn cael tystiolaeth o'r broblem yn Sir Ddinbych ac yn cael eu lobïo i newid y ddeddfwriaeth i'w gwneud yn ofynnol cwblhau datblygiad o fewn cyfnod penodedig.  Cytunodd swyddogion i ymdrin â’r mater y tu allan i'r cyfarfod a chodi'r posibilrwydd o ddull ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill a chynnig awgrymiadau amgen i’w hystyried

·         rhoddwyd esboniad o ran cyfranogiad yr aelodau ar y Grŵp Strategaeth Tai â’r aelodau Cabinet hynny sydd ag elfennau o dai yn eu portffolios yn cymryd rhan yn ystod y camau cynnar i ddarparu persbectif aelod cyn y cyflwynwyd y strategaeth drwy sianeli ffurfiol - Pwyllgor Archwilio Cymunedau ym mis Medi a'r Cyngor llawn ym mis Hydref

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Joan Butterfield at faterion digartrefedd ac anawsterau dod o hyd i lety addas, gan gynghori ynghylch achos presennol er mwyn egluro’r pwynt, a'r angen i roi sylw i'r mater fel mater o frys – cadarnhaodd swyddogion bod digartrefedd wedi’i nodi fel blaenoriaeth o fewn y Strategaeth Tai ac y byddai Aelodau’n cael cyfle i archwilio’r strategaeth mewn Pwyllgor Archwilio Cymunedau ym mis Medi.  O ran yr achos presennol y cyfeiriwyd ato, cytunwyd edrych ymhellach ar y mater gan swyddogion y tu allan i’r cyfarfod

·         codwyd pryderon ynghylch safleoedd blêr y Cyngor a'r angen am ddull mwy trwyadl i fynd i'r afael â nhw.

 

Talodd y Cabinet deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y Grŵp a’i swyddogion cefnogi i gynhyrchu argymhellion clir i sicrhau manteision mewn materion sy'n ymwneud â thai fforddiadwy a nodwyd bod rhai argymhellion eisoes yn cael eu gweithredu.  Adroddodd y Cynghorydd David Smith ar y dull dynamig a gynhaliwyd, yn fwyaf nodedig y Canllawiau Cynllunio Atodol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Cynllunio sy'n caniatáu addasu adeiladau gwledig segur ar gyfer tai ar y farchnad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r casgliadau a’r argymhellion y cytunwyd arnynt gan y Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy (sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad) i’w symud ymlaen drwy'r Strategaeth Tai a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig.