Mater - cyfarfodydd
TOWN AND AREA PLANS
Cyfarfod: 30/06/2015 - Cabinet (Eitem 6)
6 CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL PDF 161 KB
☻Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu
Cymunedol (copi amgaeedig) yn argymell cymeradwyo'r dyraniadau cyllid ar gyfer
prosiectau Cynllun Tref ac Ardal yn dilyn gwerthusiad.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r dyraniadau cyllid a argymhellir yn Atodiad 1 yr
adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad yn argymell cymeradwyo dyraniadau ariannol ar
gyfer prosiectau Cynllun Tref ac Ardal yn dilyn gwerthusiad.
Roedd Cabinet
wedi cymeradwyo’r argymhellion adolygu Cynllun Tref ac Ardal yn Ionawr 2015 a
chytunwyd i wahodd Grwpiau Ardal Aelodau i enwebu prosiectau sy'n weddill am
arian. Roedd y gwerthusiad o'r prosiectau hynny wedi'u
gosod yn yr adroddiad yn erbyn meini prawf â’r bwriad i brofi budd, gwerth am
arian a’r gallu i gyflenwi. Pennwyd dyddiadau adolygu ar gyfer pob
prosiect a dyraniad wrth gefn ar gyfer Cynllun Tref Bodelwyddan. Cymeradwyodd
y Cynghorydd Huw Jones waith Pencampwyr
y Dref yn eu gwerthusiadau a chyflwynodd eu hargymhellion ariannu.
Croesawodd yr
Arweinydd y buddsoddiad mewn cymunedau a buddion cymunedol sy'n deillio o’r
Cynllun Tref ac Ardal. Fe adroddodd hefyd ynghylch bwriadau yn y
dyfodol i gysoni Cynlluniau Tref ac Ardal yn fwy agos â’r strategaeth
economaidd a thynnodd sylw at y pwysigrwydd o adrannau gwasanaeth yn helpu i
gyflawni cynlluniau. Roedd y Cabinet yn fodlon bod prosesau
clir wedi’u sefydlu gyda meini prawf asesu i hyrwyddo tegwch a thryloywder mewn
dyraniadau ariannu ond gofynnwyd am sicrwydd pellach ynghylch cynnydd cyflym
prosiectau ac elfennau arian cyfatebol.
Fe wnaeth y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus dawelu meddyliau’r aelodau ynghylch
y prosesau monitro cadarn a oedd ar waith i oruchwylio datblygiad y prosiectau
o fewn amserlenni priodol. Awgrymwyd ymhellach y gellid monitro’n
rheolaidd drwy atodiad i adroddiad cyllid rheolaidd y Cabinet i ddangos cynnydd
yn erbyn gwariant a gellid ailddyrannu arian os methodd prosiectau wneud
cynnydd. Roedd y rhan fwyaf o'r cynlluniau a argymhellwyd
wedi nodi neu wedi diogelu arian cyfatebol a byddai cyflwyno dyddiadau adolygu
yn galluogi bod modd mynd i’r afael â’r elfen arian cyfatebol. Awgrymodd
y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn ôl i Bencampwyr y Dref neu Arweinwyr
Grŵp i sicrhau bod cynghorwyr yn cael y diweddaraf gyda chynnydd
prosiectau penodol. O ran ariannu Cynlluniau Tref ac Ardal yn
y dyfodol, cyfeiriwyd at y Cynllun Datblygu Gwledig, ffermydd gwynt ac arian
Ewropeaidd fel ffynonellau posibl i barhau’r buddsoddiad mewn trefi/pentrefi.
Wrth fynd heibio,
tynnodd y Cynghorydd Eryl Williams sylw at y ffaith y byddai cynigion ad-drefnu
llywodraeth leol yn effeithio ar argaeledd arian allanol. Er
mwyn sicrhau nad oedd Sir Ddinbych ar eu colled yn hynny o beth, awgrymodd y
dylid ceisio eglurhad ynghylch y goblygiadau ariannol uniongyrchol gan y
Gweinidog ac Aelodau Cynulliad. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro /
Cyfreithiwr ddrafftio llythyr yn hynny o beth mewn ymgynghoriad â Phennaeth y
Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd.
Diolchodd yr
Aelodau i’r swyddogion am eu gwaith caled ar amrywiol brosiectau a thynnwyd
sylw at rôl bwysig Pencampwyr y Dref yn
y broses. Rhoddodd yr Aelodau sylwadau hefyd ynghylch yr
amrywiol brosiectau a gyflwynwyd i’w gwerthuso a mynegwyd siom mewn achosion
lle nad oeddent wedi cael cefnogaeth heb unrhyw ddull o apelio ar waith. Dywedodd
y Cynghorydd Huw Jones y gall prosiectau nad ydynt ar hyn o bryd wedi’u
hargymell ar gyfer cyllid gael cyfle arall i wneud cais am arian a
ail-ddyrannwyd os bydd prosiectau eraill yn methu symud ymlaen. Roedd
gwaith ar y gweill i edrych ar ffyrdd gwahanol o weithio a ffynonellau arian
allanol posibl i alluogi Cynlluniau Tref ac Ardal i barhau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r dyraniadau arian a argymhellir yn Atodiad 1 yr
adroddiad.