Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE DRIVER DRESS CODE UPDATE REPORT

Cyfarfod: 10/06/2015 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)

7 ADRODDIAD DIWEDDARU YNGLŶN Â CHOD GWISG GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno sylwadau i'r Aelodau a gafwyd yn dilyn eu penderfyniad mewn cyfarfod blaenorol mewn perthynas â gwisgo siorts.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gofyn i swyddogion ddiwygio Cod Gwisg Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat er mwyn caniatáu siorts wedi'u teilwra hyd at y pen-glin, ond bod yn fwy cyfarwyddol, h.y. dim siorts denim na siorts chwaraeon.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (IM) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn cyflwyno i Aelodau sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn eu penderfyniad i wahardd gyrwyr trwyddedig rhag gwisgo siorts fel rhan o’r Cod Gwisg a gymeradwywyd ar gyfer gyrwyr yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Bu gan y cyfryngau gryn ddiddordeb yn y penderfyniad a chafodd deiseb yn dwyn y teitl "Deiseb er mwyn i yrwyr tacsi Sir Ddinbych gael parhau i wisgo siorts” ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis Mai 2015.  Yng ngoleuni'r sylwadau a gafwyd ac o ystyried geiriad fersiwn ddrafft y Cod Gwisg yn amodol ar ymgynghori ynglŷn â chaniatáu siorts hyd at y pen-glin wedi'u teilwra, gofynnwyd i'r Aelodau ystyried a oes digon o ymgynghori neu drafodaeth wedi digwydd er mwyn gwahardd siorts rhag cael eu gwisgo.

 

Trafododd yr Aelodau rinweddau’r penderfyniad i wahardd gyrwyr rhag gwisgo siorts ac roedd safbwyntiau cymysg yn y cyswllt hwn.  Siaradodd y Cynghorwyr Joan Butterfield, Bill Cowie a Barry Mellor o blaid codi'r gwaharddiad a chaniatáu siorts hyd ar y pen glin wedi eu teilwra ond dim siorts denim na siorts chwaraeon.  O ystyried barn y fasnach dacsis ystyriwyd bod y gwelliant hwn yn rhesymol er mwyn sicrhau cysur y gyrwyr mewn tywydd poeth a pharhau i gyfleu delwedd broffesiynol o'r fasnach.  Nodwyd bod yr ymgynghoriad wedi'i seilio ar ganiatáu siorts at y pen-glin wedi'u teilwra a bod y cynnig hwnnw wedi ei dderbyn gan y deiliaid trwydded hynny a fynychodd y sesiwn gweithdy.  O ganlyniad, ni ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol ymgynghori unwaith eto ynglŷn â’r cynnig hwnnw.  Siaradodd y Cynghorydd Hugh Irving o blaid cadw gwaharddiad llwyr ar wisgo siorts i hyrwyddo delwedd broffesiynol o’r fasnach a gwnaeth gymariaethau â chod gwisg/lifrai sefydliadau eraill a chyfeirio at y fasnach dacsis mewn gwledydd eraill.  Teimlai y dylai gyrwyr tacsi fodloni safonau tebyg i sicrhau y gwneir argraff ffafriol ar gwsmeriaid ac ar ymwelwyr â'r ardal.  Hefyd, tynnodd sylw at ba mor anodd fyddai barnu ar yr amrywiaeth o siorts y gellir eu gwisgo.  Ymatebodd aelodau eraill ei bod yn annheg gwneud cymariaethau â sefydliadau llawer mwy a phroffesiynau gwahanol, yn arbennig o ystyried bod llawer o’r gyrwyr yn hunan-gyflogedig.  Nodwyd hefyd bod cod gwisg y Cyngor ei hun yn caniatáu gwisgo siorts cyhyd â’u bod yn drwsiadus ac yn broffesiynol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving y dylid cadw’r Cod Gwisg fel y cytunwyd arno ar 4 Mawrth 2015 ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Owen.  Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid diwygio'r Cod Gwisg er mwyn caniatáu siorts wedi'u teilwra hyd at y pen-glin, ond y dylid bod yn fwy rhagnodol, h.y. dim siorts denim na siorts chwaraeon.  Yn dilyn pleidlais -

 

PENDERFYNWYD gofyn i swyddogion ddiwygio'r Cod Gwisg Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat er mwyn caniatáu siorts hyd at y pen-glin wedi'u teilwra, ond y dylid bod yn fwy rhagnodol, h.y. dim siorts denim na siorts chwaraeon