Mater - cyfarfodydd
HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE DRIVER DRESS CODE UPDATE REPORT
Cyfarfod: 10/06/2015 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)
7 ADRODDIAD DIWEDDARU YNGLŶN Â CHOD GWISG GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 80 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
gofyn i swyddogion
ddiwygio Cod Gwisg Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat er mwyn caniatáu
siorts wedi'u teilwra hyd at y pen-glin, ond bod yn fwy cyfarwyddol, h.y. dim
siorts denim na siorts chwaraeon.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (IM)
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd eisoes)
a oedd yn cyflwyno i Aelodau sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn eu penderfyniad i
wahardd gyrwyr trwyddedig rhag gwisgo siorts fel rhan o’r Cod Gwisg a
gymeradwywyd ar gyfer gyrwyr yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor.
Bu gan y cyfryngau gryn ddiddordeb yn y
penderfyniad a chafodd deiseb yn dwyn y teitl "Deiseb er mwyn i yrwyr
tacsi Sir Ddinbych gael parhau i wisgo siorts” ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis
Mai 2015. Yng ngoleuni'r sylwadau a
gafwyd ac o ystyried geiriad fersiwn ddrafft y Cod Gwisg yn amodol ar
ymgynghori ynglŷn â chaniatáu siorts hyd at y pen-glin wedi'u teilwra,
gofynnwyd i'r Aelodau ystyried a oes digon o ymgynghori neu drafodaeth wedi
digwydd er mwyn gwahardd siorts rhag cael eu gwisgo.
Trafododd yr Aelodau rinweddau’r penderfyniad i
wahardd gyrwyr rhag gwisgo siorts ac roedd safbwyntiau cymysg yn y cyswllt
hwn. Siaradodd y Cynghorwyr Joan
Butterfield, Bill Cowie a Barry Mellor o blaid codi'r gwaharddiad a chaniatáu
siorts hyd ar y pen glin wedi eu teilwra ond dim siorts denim na siorts
chwaraeon. O ystyried barn y fasnach
dacsis ystyriwyd bod y gwelliant hwn yn rhesymol er mwyn sicrhau cysur y gyrwyr
mewn tywydd poeth a pharhau i gyfleu delwedd broffesiynol o'r fasnach. Nodwyd bod yr ymgynghoriad wedi'i seilio ar
ganiatáu siorts at y pen-glin wedi'u teilwra a bod y cynnig hwnnw wedi ei
dderbyn gan y deiliaid trwydded hynny a fynychodd y sesiwn gweithdy. O ganlyniad, ni ystyriwyd ei bod yn
angenrheidiol ymgynghori unwaith eto ynglŷn â’r cynnig hwnnw. Siaradodd y Cynghorydd Hugh Irving o blaid
cadw gwaharddiad llwyr ar wisgo siorts i hyrwyddo delwedd broffesiynol o’r
fasnach a gwnaeth gymariaethau â chod gwisg/lifrai sefydliadau eraill a
chyfeirio at y fasnach dacsis mewn gwledydd eraill. Teimlai y dylai gyrwyr tacsi fodloni safonau
tebyg i sicrhau y gwneir argraff ffafriol ar gwsmeriaid ac ar ymwelwyr â'r
ardal. Hefyd, tynnodd sylw at ba mor
anodd fyddai barnu ar yr amrywiaeth o siorts y gellir eu gwisgo. Ymatebodd aelodau eraill ei bod yn annheg
gwneud cymariaethau â sefydliadau llawer mwy a phroffesiynau gwahanol, yn
arbennig o ystyried bod llawer o’r gyrwyr yn hunan-gyflogedig. Nodwyd hefyd bod cod gwisg y Cyngor ei hun yn
caniatáu gwisgo siorts cyhyd â’u bod yn drwsiadus ac yn broffesiynol.
Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving y dylid cadw’r
Cod Gwisg fel y cytunwyd arno ar 4 Mawrth 2015 ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Peter Owen. Cynigiodd y
Cynghorydd Joan Butterfield y dylid diwygio'r Cod Gwisg er mwyn caniatáu siorts
wedi'u teilwra hyd at y pen-glin, ond y dylid bod yn fwy rhagnodol, h.y. dim
siorts denim na siorts chwaraeon. Yn
dilyn pleidlais -
PENDERFYNWYD
gofyn i swyddogion
ddiwygio'r Cod Gwisg Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat er mwyn caniatáu
siorts hyd at y pen-glin wedi'u teilwra, ond y dylid bod yn fwy rhagnodol, h.y.
dim siorts denim na siorts chwaraeon