Mater - cyfarfodydd
LICENSING COMMITTEE FORWARD WORK PROGRAMME 2015/16
Cyfarfod: 10/06/2015 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 12)
12 RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2015/16 PDF 89 KB
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn nodi
blaenoriaethau’r Adran Drwyddedu ac yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y
pwyllgor i’w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD -
(a) tynnu’r broses o reoleiddio Cerbydau Hacni oddi ar Raglen Gwaith i’r
Dyfodol 2015/16, a
(b) chymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu a
blaenoriaethau’r Adain Trwyddedu ar gyfer 2015/16.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ynglŷn â blaenoriaethau’r Adain
Drwyddedu ynghyd â rhaglen waith arfaethedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer
2015/16.
Ymhelaethodd y swyddogion ar y blaenoriaethau a nodwyd
sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen waith ynghyd â chyfres o gynlluniau gweithredu
gan gynnwys amserlen ar gyfer eu cwblhau dros y deunaw mis nesaf. Yng ngoleuni trafodaethau a gafwyd mewn
digwyddiad hyfforddi aelodau’n ddiweddar, argymhellwyd y dylid tynnu
rheoleiddio cerbydau hacni oddi ar y rhaglen waith. Tra derbynnid y rhesymau dros beidio â mynd
ar drywydd cyfyngu ar niferoedd tacsis ailadroddodd y Cynghorydd Joan
Butterfield ei phryderon ynglŷn â’r rhengoedd tacsi a dywedodd y byddai
hi'n codi'r mater yn uniongyrchol gyda'r Adran Priffyrdd ynghyd ag effaith y
cynnig i gyflwyno rhaglen o bylu'r pa mor llachar yw goleuadau stryd y sir.
PENDERFYNWYD -
(a) Tynnu rheoleiddio Cerbydau
Hacni oddi ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol 2015/16.
(b) Cymeradwyo rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Pwyllgor trwyddedu a blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ar gyfer
2015/16.
Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m.