Mater - cyfarfodydd
YSGOL LLANBEDR
Cyfarfod: 02/06/2015 - Cabinet (Eitem 7)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi
ynghlwm) yn rhoi manylion trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng
Nghymru ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanbedr a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet
i fwrw ymlaen i ymgynghori’n ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Wirfoddol a
Reolir Llanbedr ar 31 Awst, 2016 gyda disgyblion presennol yn trosglwyddo i
Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.
Dogfennau ychwanegol:
- YSGOL LLANBEDR - APP 1, Eitem 7 PDF 427 KB
- YSGOL LLANBEDR - APP 2, Eitem 7 PDF 2 MB
- YSGOL LLANBEDR - APP 3, Eitem 7 PDF 102 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer y cynigion i gau
Ysgol Wirfoddol a Reolir Llanbedr ar 31 Awst 2016 a throsglwyddo’r disgyblion
presennol i Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn rhoi manylion trafodaethau gydag
Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanbedr
a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen i ymgynghori’n ffurfiol ar y
cynnig i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir Llanbedr ar 31 Awst 2016 gyda disgyblion
presennol yn trosglwyddo i Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar
ddewis y rhieni.
Ailadroddodd y
Cynghorydd Williams y rhesymeg y tu ôl i'r adolygiad o ysgolion cynradd yn y
sir a chyd-destun Ysgol Llanbedr fel rhan o'r adolygiad ehangach o ardal
Rhuthun. Roedd yr achos dros newid wedi'i gynnwys yn yr
adroddiad yn amlygu amcanestyniadau o ran lleoedd gwag a materion dros
gynaliadwyedd a hyfywedd yr ysgol a safonau addysg a chyrhaeddiad yn y dyfodol. Yn
dilyn penderfyniad i wrthod y cynnig cychwynnol gan Lywodraeth Cymru, roedd
swyddogion wedi ymgynghori gyda'r Eglwys yng Nghymru ynglŷn â dyfodol yr
ysgol. Roedd yr Esgobaeth wedi cyflwyno cynnig amgen a
oedd yn cynnwys atal yr ymgynghoriad arfaethedig i gau ysgol i ganiatáu i
bartner ffederasiwn gael ei sicrhau a newid statws i gwirfoddol a gynorthwyir,
gydag ymrwymiad i adolygu dyfodol yr ysgol ym mis Mai 2018. Roeddent yn credu y
byddai'r cynnig hwn yn mynd i'r afael ag amcanion y Cyngor o leihau costau a
mynd i'r afael â lleoedd gwag. Dywedodd y Cynghorydd Williams y gellid
cyflwyno cynigion mwy manwl yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol a byddai
swyddogion yn gweithio gyda’r Esgobaeth yn hynny o beth.
Roedd y Cabinet
wedi ystyried yr adroddiad a myfyrio ar eu cyfarfod diweddar gyda’r Esgobaeth
ynghylch eu cynnig. Oherwydd y diffyg manylder ac achos busnes
cadarn, ni ellid gwneud gwerthusiad o hyfywedd y cynnig. Eglurwyd
y byddai unrhyw ddatblygiad o'r cynnig angen cael ei wneud gan yr Esgobaeth,
ond byddai swyddogion yn barod i weithio gyda nhw a darparu unrhyw wybodaeth
berthnasol.
Mynegodd y
Cynghorydd Huw Williams ei siom bod y mater o gau yn dal i gael ei ystyried a
gofynnodd i’r ymgynghoriad gael ei ohirio er mwyn caniatáu amser i’r cynnig ar
gyfer ffederasiwn gael ei ddatblygu – teimlodd y gall sgyrsiau yn y dyfodol â
darpar bartneriaid gael ei beryglu os byddai’r ymgynghoriad ar gyfer cau yn
mynd ymlaen. Hefyd atgoffodd y Cabinet bod cyllid i ddatblygu’r
cynigion adolygu ardal Rhuthun wedi'i sicrhau ac nad oedd yn ddibynnol ar gau’r
ysgol. Roedd y Cynghorydd Dewi Owens hefyd yn teimlo'n
gryf y dylid gohirio’r ymgynghoriad ac y dylai’r Cyngor a’r Esgobaeth
gydweithio i ddatblygu cynnig y ffederasiwn. Roedd
y Cynghorydd Martyn Holland yn amlygu manteision ffedereiddio fel dewis real yn
lle cau ac yn cyfeirio at y goblygiadau posibl ar niferoedd y disgyblion sy'n
deillio o ddatblygiadau tai newydd.
Gofynnodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts am eglurhad ar nifer y disgyblion a phwysleisiodd yr angen i
feddwl am y plant yr effeithir arnynt.
Darparwyd yr ymatebion fel a
ganlyn –
·
eglurwyd
bod y cynnig i gau ysgol yn destun ymgynghoriad newydd a byddai aelodau’n aros
â meddwl agored ac yn ystyried yr holl ymatebion, gan gynnwys unrhyw gynnig
amgen a gyflwynwyd
·
rhoddwyd
sicrhad y byddai hyfywedd unrhyw gynigion amgen yn cael eu hasesu a’u cyflwyno
i'r Cabinet ynghyd ag ymatebion i'r ymgynghoriad llawn ar gyfer ystyriaeth
·
y
ffigwr amcanestyniad disgyblion oedd 53 erbyn 2020 – roedd capasiti wedi'i
adolygu ar gais y corff llywodraethu a byddai’n cynyddu i 77 o Medi 2016, eto
ar gais y Corff Llywodraethu
· cafwyd rhywfaint o drafodaeth ar y mater ffederasiwn a phan gafodd ei godi’n wreiddiol, roedd hyn yn cynnwys pam bod ffedereiddio gydag Ysgol Borthyn wedi’i ddiystyru, methiant yr Esgobaeth i gyflwyno ... view the full Cofnodion text for item 7