Mater - cyfarfodydd
HOUSING BENEFIT AND COUNCIL TAX REDUCTION SCHEME TELEPHONE RECORDING POLICY
Cyfarfod: 24/03/2015 - Cabinet (Eitem 8)
8 POLISI RECORDIO GALWADAU FFÔN CYNLLUN GOSTYNGIAD TRETH Y CYNGOR A BUDD-DAL TAI PDF 86 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi newydd yn ymdrin
â hawliadau newydd a newid amgylchiadau Gostyngiad Treth y Cyngor a Budd-dal
Tai.
Dogfennau ychwanegol:
- HB&CT TELEPHONE RECORDING POLICY - APPENDIX, Eitem 8 PDF 152 KB
- CT TELEPHONE RECORDING POLICY - EQIA, Eitem 8 PDF 97 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo ‘Polisi Recordio Galwadau Ffôn, Cynllun Gostyngiad
Treth y Cyngor a Budd-dal Tai fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer
polisi newydd sy'n ymdrin â hawliadau newydd am Ostyngiadau Budd-dal Tai a
Threth y Cyngor a newidiadau mewn amgylchiadau.
Byddai
buddsoddiad y Cyngor mewn system teleffoni newydd sy’n gallu recordio galwadau
yn galluogi'r awdurdod i gynnig gwasanaeth hawlio dros y ffôn newydd i
drigolion. Byddai’r dull newydd o ymdrin
â hawliadau’n cynnig dewis ychwanegol i gwsmeriaid hawlio budd-daliadau neu roi
gwybod am newidiadau, cyflymu'r broses hawliadau, a byddai'n debygol o leihau
nifer yr hawliadau twyllodrus.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo ‘Polisi Recordio Galwadau Ffôn, Cynllun Gostyngiad
Treth y Cyngor a Budd-dal Tai fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad.
[Ni bleidleisiodd
y Cynghorydd Eryl Williams ar y penderfyniad uchod.]