Mater - cyfarfodydd
COUNCIL TAX AND NATIONAL NON DOMESTIC RATES MOVES, DISCOUNTS, EXEMPTIONS AND RELIEFS TELEPHONE CALL RECORDING POLICY
Cyfarfod: 24/03/2015 - Cabinet (Eitem 7)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi newydd yn ymdrin
â newidiadau cyfeiriad, newid sefyllfa a hawlio disgownt a gostyngiad y Gwasanaethau
Refeniw.
Dogfennau ychwanegol:
- CT TELEPHONE RECORDING POLICY - APPENDIX, Eitem 7 PDF 121 KB
- CT TELEPHONE RECORDING POLICY - EQIA, Eitem 7 PDF 97 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo ‘Polisi Recordio Galwadau Ffôn, Newidiadau Treth y
Cyngor a Chyfraddau Annomestig Cenedlaethol, Disgowntiau, Eithriadau a
Gostyngiadau’ fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer
polisi newydd sy'n ymdrin â newid cyfeiriad, newid mewn amgylchiadau a
hawliadau am ddisgownt a rhyddhad yn y Gwasanaethau Refeniw.
Roedd y Cyngor yn
buddsoddi mewn system teleffoni newydd a oedd yn gallu recordio galwadau. Byddai'r dull newydd o ddelio â newidiadau yn
galluogi arferion gwaith mwy effeithlon, gwella gwasanaeth i gwsmeriaid, yn
gweithredu fel rhwystr i geisiadau twyllodrus ac yn cael effaith gadarnhaol ar
drigolion Sir Ddinbych.
Croesawodd y
Cabinet y polisi fel modd o ddarparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid i drigolion
wrth alluogi effeithlonrwydd pellach hefyd wrth brosesu a lleihau'r
posibilrwydd o dwyll. Codwyd cwestiynau
ynghylch rheolaeth weithredol y dyfodol o’r system newydd a'r potensial ar
gyfer integreiddio gyda systemau eraill.
Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd -
·
ni fyddai'r polisi yn cael ei
gyflwyno nes bod y system teleffoni newydd yn cael ei gosod ac roedd yn
fanteisiol i’r polisi fod mewn grym cyn trosglwyddo'r gwasanaeth i Civica a
fyddai'n etifeddu holl bolisïau’r Cyngor ac yn glynu wrthynt
·
rhoddwyd
sicrwydd na fyddai staff yn cael eu heffeithio’n andwyol gan y trosglwyddiad i
Civica a byddent yn cael manteision ychwanegol o fod yn weithiwr Civica –
cafwyd ymateb cadarnhaol gan staff yn hynny o beth
·
roedd
Civica wedi llofnodi Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor ac ni fyddai unrhyw effaith
niweidiol ar yr iaith Gymraeg yn sgil y trosglwyddiad
·
nid
oedd unrhyw gost ychwanegol i'r cwsmer o ganlyniad i'r polisi newydd ac roedd
pob sianel arall o gyfathrebu â'r Cyngor yn parhau i fod - cytunodd y
swyddogion i wirio a fyddai 'Type Talk' yn cael ei gynnwys a’i recordio gan y
system
·
byddai
gweithredu'r polisi newydd yn destun proses fonitro i sicrhau ei effeithiolrwydd
ac fe adroddir yn ôl i'r aelodau yn rheolaidd.
Cefnogodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts integreiddio’r system newydd â systemau eraill
y Cyngor yn fwy, gyda golwg ar ddilysu a rhannu data er mwyn caniatáu
cyfathrebu uniongyrchol gyda thrigolion fel y bo'n briodol. Esboniodd y swyddogion y byddai'r system
teleffoni newydd yn integreiddio system y Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid ond
bod lefel yr integreiddio yn dibynnu ar feddalwedd a chost. Awgrymwyd pe bai gan yr aelodau farn gref ar
y mater hwn, eu bod yn cysylltu â'r Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg yn
uniongyrchol. Cyfeiriodd y Cynghorydd
Barbara Smith at feysydd eraill o waith yn gysylltiedig â'r system teleffoni
newydd fel ymateb mewn argyfwng, a dywedodd bod diogelu data hefyd yn fater i'w
ystyried.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo ‘Polisi Recordio Galwadau Ffôn, Newidiadau Treth y
Cyngor a Chyfraddau Annomestig Cenedlaethol, Disgowntiau, Eithriadau a
Gostyngiadau’ fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad.
[Ni bleidleisiodd
y Cynghorydd Eryl Williams ar y penderfyniad uchod.]