Mater - cyfarfodydd
APPROVAL OF FINAL BUSINESS CASE FOR YSGOL GLAN CLWYD REDEVELOPMENT
Cyfarfod: 24/03/2015 - Cabinet (Eitem 5)
5 CYMERADWYO ACHOS BUSNES TERFYNOL AILDDATBLYGU YSGOL GLAN CLWYD PDF 264 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm)
yn argymell cymeradwyo Achos Busnes Terfynol ar gyfer Ysgol Glan Clwyd i’r
Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol ar gyfer
Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
yn argymell cymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol ar gyfer Ysgol Glan Clwyd,
Llanelwy i'r Cyngor. Byddai’r prosiect
yn darparu adeilad ysgol wedi’i ehangu a’i adnewyddu i ateb y galw cynyddol am
addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y Sir.
Tynnodd y Cynghorydd Williams sylw at yr adroddiad
cadarnhaol a oedd yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn addysg yn y sir
a diolchodd i'r swyddogion am eu gwaith caled yn hynny o beth. Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Jones hefyd at
effaith gadarnhaol y prosiect ar y gymuned sy'n deillio o well mynediad i
Ganolfan Hamdden Llanelwy. Croesawodd y
Cabinet yr adroddiad fel stori newyddion da a thrafodwyd a ellid gwneud mwy i
hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i fuddsoddiad y Cyngor mewn ysgolion, yn enwedig
yng ngoleuni’r wasg negyddol ynghylch cau ysgolion. Er bod llawer eisoes yn cael ei wneud yn
hynny o beth, teimlai'r Cynghorydd Williams y byddai’n werth rhoi
cyhoeddusrwydd i'r gwahanol gamau wrth gyflwyno prosiectau ysgol, gyda lluniau
a darluniau o'r cam cynllunio hyd at adeiladu a chwblhau, yn cynnwys yr ysgol
a'r disgyblion. Roedd yn teimlo y byddai
delweddu fel hyn yn ennyn sylw'r cyhoedd yn well ac yn cael mwy o effaith na
datganiad i'r wasg.
Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan gadarnhau
bod y gost ychwanegol o gadw'r bloc gwyddoniaeth wedi cael ei lyncu yn y
rhaglen gyffredinol, a bod cost y prosiect yn parhau i fod yn £15,900,000.
Roedd ardal hefyd wedi'i neilltuo i’w defnyddio gan y Gwasanaethau Hamdden a
oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y Clwb Ieuenctid. Yn olaf rhoddwyd sicrwydd bod y rhagamcan o
niferoedd disgyblion yn y prosiect hwn, ac fel rhan o'r rhaglen moderneiddio
addysg ehangach, wedi cymryd datblygiad Bodelwyddan yn y dyfodol i ystyriaeth,
cyn belled â bod modd, a'i effaith ar nifer y disgyblion.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol ar gyfer
Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.