Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 24/03/2015 - Cabinet (Eitem 12)
12 ADRODDIAD CYLLID PDF 132 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd
ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - APP1, Eitem 12 PDF 24 KB
- FINANCE REPORT - APP2, Eitem 12 PDF 37 KB
- FINANCE REPORT - APP3, Eitem 12 PDF 7 KB
- FINANCE REPORT - APP4, Eitem 12 PDF 292 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor-
·
rhagwelwyd
tanwariant net ar y gyllideb refeniw o £705k ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol
·
cytunwyd
ar arbedion o £7.1m fel rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd roedd 96% wedi’i
gyflawni - roedd arian parod wrth gefn i dalu am unrhyw arbedion na chyflawnwyd
yn llawn o fewn y flwyddyn ariannol (efallai y bydd angen tua £100k eleni)
·
amlygwyd
yr amrywiadau allweddol eraill oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion
meysydd gwasanaeth unigol
·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).
Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion canlynol -
·
Amlygodd
y Cynghorydd David Smith y gorwariant yn y Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol, gan roi gwybod bod cludiant ysgol y tu allan i'w rheolaeth, a bod
yr adolygiad parcio ceir wedi’i gwblhau ac yn cael ei gyflwyno i'r Grwpiau
Ardal Aelodau i'w ystyried. Fe
ailadroddodd ei bryderon blaenorol hefyd bod cryn dipyn yn llai yn cael ei
wario ar gynnal a chadw priffyrdd gan adael diffyg o tua £800k i gynnal ansawdd
ffyrdd y sir a chyflawni canlyniad y Cynllun Corfforaethol ar gyfer
priffyrdd. O ganlyniad, gofynnodd bod
priffyrdd yn cael blaenoriaeth wrth ystyried tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol. Awgrymwyd y dylid llunio
rhestr o waith priffyrdd i nodi'r gwaith sydd ei angen er mwyn cyflawni'r
Cynllun Corfforaethol. Atgoffodd y Prif
Weithredwr yr aelodau bod y Cyngor wedi cytuno y dylid rhoi blaenoriaeth i
gyflawni'r Cynllun Corfforaethol a'r dybiaeth weithredu oedd y byddai arian yn
cael ei ddyrannu at y diben hwn pan fydd arian ar gael, a sicrhau bod gwelliannau i'r priffyrdd yn
cael eu cynnal
·
nodwyd
y byddai'r adroddiad alldro cychwynnol ar gael ym mis Ebrill gyda'r ffigurau
terfynol ar gael ganol mis Mehefin, a byddai’r Cynllun Corfforaethol yn cael ei
adolygu yng ngoleuni'r ffigurau hynny.
Byddai angen cynnal dadl hefyd ar ddyfodol tanwariant gwasanaethau, ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan ystyried blaenoriaethau'r Cyngor y gellid eu
cynnwys fel rhan o'r adroddiad ariannol rheolaidd i'r Cabinet
·
Amlygodd
y Cynghorydd Huw Jones ddiffyg y gweithwyr cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg yn
y Gwasanaethau Cymunedol a Chefnogaeth, ac fe roddodd y Cynghorydd Eryl
Williams wybod am yr un broblem ym maes addysg ac addysgu y mae ef yn credu
sy’n broblem gyffredinol ledled Cymru, sydd angen mynd i'r afael â hi
·
rhoddwyd
esboniad o afreoleidd-dra gweithdrefnol hanesyddol y broses gaffael ar gyfer y
bont i gerddwyr a beicwyr ar ddatblygiad Harbwr y Rhyl a oedd wedi arwain at
adfachu arian grant - rhoddwyd sicrwydd bod gweithdrefnau cadarn bellach ar
waith i atal hyn rhag digwydd eto.
Canmolwyd cyflawni’r prosiect gwerth £10.5 miliwn o fewn y gyllideb.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.