Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 17/02/2015 - Cabinet (Eitem 9)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd
yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - APP 1, Eitem 9 PDF 24 KB
- FINANCE REPORT - APP 2, Eitem 9 PDF 37 KB
- FINANCE REPORT - APP 3, Eitem 9 PDF 26 KB
- FINANCE REPORT - APP 4, Eitem 9 PDF 289 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
-
(a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer
2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;
(b) cymeradwyo trosglwyddo £100 mil i gronfa
wrth gefn i ariannu gwelliannau i fand eang ysgolion yn 2015/16;
(c) anfon llythyr at Lywodraeth Cymru
ynglŷn â phryderon y Cabinet o ran cynigion y Gweinidog mewn perthynas â
TAITH.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor-
·
rhagwelwyd
tanwariant net o £639k ar y gyllideb refeniw ar draws cyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol
·
cytunwyd
ar arbedion o £7.1miliwn fel rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd ystyrir bod 90%
o’r rhain wedi eu cyflawni, gyda 10% ar waith
·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion meysydd gwasanaeth
unigol
·
cafwyd
diweddariad cyffredinol ynglŷn â’r Cyfrif Refeniw Tai; Cynllun Cyfalaf Tai
a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).
Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo trosglwyddo
£100k i gronfa wrth gefn i ariannu gwelliannau i fand eang ysgolion yn 2015/16.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol -
·
Ymatebodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol i gwestiynau
ynghylch Datblygu Harbwr y Rhyl gan gadarnhau ei fod wedi cael nifer da yn ei
ddefnyddio yn ystod ei flwyddyn gyntaf - byddai adolygiad manylach yn cael ei
gynnal ar ôl ei flwyddyn lawn gyntaf o weithredu
·
mynegwyd
pryderon ynghylch penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru lle roedd
grantiau amrywiol yn cael eu dyfarnu (ac mewn un achos yn cael ei dynnu yn ôl)
ar gam mor hwyr yn y flwyddyn ariannol fel ei fod yn achosi anawsterau i
Gynghorau yn cynllunio eu strategaethau ariannol a chynlluniau cyllido -
cyfeiriwyd yn arbennig at benderfyniad hwyr Llywodraeth Cymru i ddyfarnu £1.5m
i Gynghorau i'w wario ar offer chwarae erbyn diwedd mis Mawrth 2015 tra ar yr
un pryd yn dod â thoriadau sylweddol y gyllideb - ystyriwyd bod pe bai cyllid
ar gael dylid ei ddyrannu ymlaen llaw i helpu amddiffyn cynghorau yn erbyn y
toriadau gwaethaf
·
Hefyd,
codwyd pryderon ynglŷn â dyfodol TAITH gan fod cymaint o gyfrifoldeb y
bwrdd rhanbarthol hwnnw wedi cael ei diddymu gan Lywodraeth Cymru - tra gellid
gwneud cynlluniau ar sail ranbarthol, byddai angen i awdurdodau lleol wneud
cais am gyllid yn unigol ac nid ar sail gydlynol. Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams fod y model rhanbarthol wedi gweithio'n
effeithiol a bod rhoi'r gorau i’r gwaith hwnnw yn gam yn ôl ac yn groes i
weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cydweithio rhanbarthol - gofynnodd am
godi'r mater yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru
·
Ailadroddodd
yr aelodau hefyd bryderon blaenorol a godwyd am golli incwm o Asiantaeth
Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a'r effaith ar y gyllideb refeniw
·
nodwyd
na fyddai newidiadau a gymeradwywyd mewn perthynas â'r Gwasanaeth Cludiant
Ysgol yn cael effaith ar unwaith, ond byddai'n cael ei ddatrys i raddau helaeth
yn y tymor hir
·
Darparwyd
diweddariadau ar y prosiectau cyfalaf mawr a rhoddwyd ymatebion i gwestiynau a
godwyd ar brosiectau unigol. Teimlai'r Cynghorydd Eryl Williams y byddai budd mewn darparu lluniau o'r
prosiectau mawr yn y Cyngor llawn.
PENDERFYNWYD - bod y Cabinet
yn:-
(a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;
(b) cymeradwyo trosglwyddo £100 mil i gronfa wrth gefn i ariannu gwelliannau i
fand eang ysgolion yn 2015/16;
(c) anfon llythyr at Lywodraeth Cymru ynglŷn â phryderon y Cabinet o ran
cynigion y Gweinidog mewn perthynas â TAITH.