Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

RECOMMENDATIONS OF THE STRATEGIC INVESTMENT GROUP

Cyfarfod: 17/02/2015 - Cabinet (Eitem 8)

8 ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 112 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2015/16.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cefnogi’r prosiectau yn atodiad 1 sydd i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2015/16 a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2015/16 fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Aeth y Cynghorydd Thompson-Hill â’r aelodau drwy'r adroddiad ac ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer buddsoddi cyfalaf i brosiectau un tro a dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni parhaus o waith.  Cyfeiriwyd at waith y GBS wrth adolygu ceisiadau ar gyfer dyraniadau ynghyd â materion a gododd yn ystod y broses honno a chrynodeb o'r argymhellion.  Gan nad oes cyllid cyfalaf digonol ar gael i dalu am yr holl brosiectau mae nifer o gyn-ddyraniadau o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol wedi cael eu hargymell.

 

Mynegwyd cwestiynau ynghylch y rhaglen adnewyddu goleuadau stryd o £2m ac eglurwyd er mwyn bodloni'r gofyniad i gyflwyno ceisiadau am gyllid Salix y Llywodraeth yn flynyddol, cynigiwyd y dylid cymryd benthyciad blynyddol o tua £335k bob blwyddyn dros chwe blynedd ar sail dreigl, yn ad-daladwy o'r arbedion a wneir o'r flwyddyn flaenorol.  Roedd y rhaglen yn cynnwys ailosod y llusernau presennol gyda llusernau LEA newydd a ddylai ddarparu arbedion sylweddol ar gostau ynni a chynnal a chadw.  Soniodd y Cynghorydd Bill Cowie am y goleuo gwael yn y Groesfan Pelican yn Llanelwy (A525) ers i oleuadau stryd LEA gael eu gosod a gofynnodd am i’r mater gael ei ymchwilio cyn i’r cynnig gael ei ystyried yn y Cyngor llawn.  Cytunodd y Cynghorydd Thompson-Hill i gysylltu â'r Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol dros y Parth Cyhoeddus yn uniongyrchol mewn perthynas â hynny.  Ymatebodd hefyd i gwestiynau pellach ynghylch allyriadau carbon, gan gadarnhau bod adeiladau'r cyngor yn cael eu monitro mewn perthynas â hyn a bod cynlluniau ynni effeithlon wedi cael eu cyflwyno mewn rhai ardaloedd.

 

Roedd yr Arweinydd yn teimlo bod y broses o adolygu ceisiadau a dyrannu cyfalaf yn gadarn ond gofynnodd am ystyried sut i fesur gwerth am arian ac effaith buddsoddi cyfalaf mewn blynyddoedd i ddod.  Cytunodd y Cynghorydd Thompson-Hill â'r awgrym hwnnw - cytunodd hefyd i ddarparu manylion pellach ynghylch aelodaeth y GBS yn adroddiadau'r dyfodol a chadarnhaodd bod presenoldeb da mewn cyfarfodydd ar y cyfan.

 

PENDERFYNWYD y dylid cefnogi’r prosiectau yn atodiad 1 sydd i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2015/16 a’u hargymell i'r Cyngor llawn.