Mater - cyfarfodydd
HOUSING RENT SETTING & HOUSING REVENUE AND CAPITAL BUDGETS 2015/16
Cyfarfod: 17/02/2015 - Cabinet (Eitem 7)
7 GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2015/16 PDF 108 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y
cynnydd rhent arfaethedig a chyflwyno costau gwasanaeth a chymeradwyo Cyllidebau
Cyfrif Refeniw Tai a Chyfalaf 2015/16.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD -
(a) Mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai
ar gyfer 2015/16 (Atodiad 1) a Chynllun Busnes y Stoc Tai (Atodiad 2);
(b) Codi rhenti anheddau'r Cyngor yn unol â
Deddf Tai (Cymru) 2014 i rent wythnosol cyfartalog o £74.93 o ddydd Llun 6
Ebrill 2015 ymlaen;
(c) Codi rhenti garejys y Cyngor yn unol â’r
cynnydd mewn rhent ar gyfer anheddau’r Cyngor;
(d) Cyflwyno costau gwasanaeth cyfartalog o
£1.99 yr wythnos lle bo’n berthnasol yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014;
(e) Cynnal adolygiad o safleoedd garej yn
2015/16 fel rhan o'r Strategaeth Rheoli Asedau, a derbyn adroddiad ar
ganlyniadau'r adolygiad erbyn 31 Rhagfyr 2015 fan bellaf.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i’r
cynnydd arfaethedig mewn rhent a chyflwyno taliadau gwasanaeth, a chymeradwyo’r
Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2015/16. Roedd yr
adroddiad hefyd yn cynnwys cyfeiriad at ymadawiad y Cyngor o'r system HRAS ym
mis Ebrill 2015 ac roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn falch o adrodd ar
ymgysylltiad cadarnhaol y pedwar cynrychiolydd tenantiaid ar y Gweithgor HRAS
a’u cyfraniad gwerthfawr i'r broses honno.
Arweiniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy ffigurau’r gyllideb a oedd wedi eu
cyfrifo gan ystyried y polisi rhent newydd, dad-gronni taliadau gwasanaeth,
mecanwaith ar gyfer codi rhenti a chyflwyno tâl gwasanaeth sefydlog lle bo
hynny'n berthnasol. Adroddodd y Swyddog Taliadau Gwasanaeth
bod tâl gwasanaeth amrywiol wedi cael ei argymell yn y lle cyntaf, ond oherwydd
bod 90% o denantiaid ar gontractau blynyddol tymor penodol, byddai’n fwy
priodol i gyflwyno tâl gwasanaeth tymor penodol a phasio'r arbedion dilynol
ymlaen i’r tenantiaid.
Wrth ystyried yr
adroddiad, trafodwyd y materion canlynol -
·
Roedd
y Cynghorydd Huw Jones yn awyddus i sicrhau bod yr adolygiad arfaethedig o
garejys y cyngor yn cael ei wneud - cytunwyd i gynnwys yr adolygiad yn y
penderfyniad
·
amlygwyd
nad oedd rhai garejys y cyngor yn cael eu defnyddio'n briodol a darparodd
swyddogion sicrwydd y byddai camau yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai a oedd yn
defnyddio garejys y cyngor yn groes i’w
telerau tenantiaeth
·
Darparwyd
esboniad ynglŷn â defnyddio’r meini prawf ar gyfer rhenti targed gyda
chamau’n cael eu cymryd i gynyddu rhenti yn raddol er mwyn cwrdd â ffigurau
rhent targed Llywodraeth Cymru ar gyfer pob eiddo unigol erbyn 2015/16
·
roedd
rhywfaint o anfodlonrwydd ynghylch cyfrifiad Llywodraeth Cymru o renti
cyfartalog nad oedd yn cymryd i ystyriaeth ffyniant o fewn gwahanol ardaloedd,
ond derbyniwyd bod yr elfen hon tu allan i reolaeth y Cyngor
·
roedd
yr aelodau'n falch o nodi bod elfen o adeiladau newydd wedi cael eu cynnwys yng
Nghynllun Busnes y Stoc Tai a fyddai'n darparu llety o ansawdd da ar gyfer
trigolion Sir Ddinbych – pwysleisiwyd yr angen i roi cyhoeddusrwydd i'r mater
hwn fel stori newyddion da
·
cadarnhaodd
y swyddogion nad oedd unrhyw ddibyniaeth ar werthiannau Hawl i Brynu fel
ffynhonnell arian ar gyfer Cynllun Busnes y Stoc Tai gyda'r elfen hon wedi
gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd i ragolwg o ddim ond un gwerthiant y
flwyddyn.
PENDERFYNWYD:-
(a) Mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2015/16 (Atodiad 1) a Chynllun Busnes y
Stoc Tai (Atodiad 2);
(b) Codi rhenti
anheddau'r Cyngor yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014 i rent wythnosol cyfartalog
o £74.93 o ddydd Llun 6 Ebrill 2015 ymlaen;
(c) Codi rhenti
garejis y Cyngor yn unol â’r cynnydd mewn rhent ar gyfer anheddau’r Cyngor;
(d) Cyflwyno costau
gwasanaeth cyfartalog o £1.99 yr wythnos lle bo’n berthnasol yn unol â Deddf
Tai (Cymru) 2014;
(e) Cynnal adolygiad
o safleoedd garej yn 2015/16 fel rhan o'r Strategaeth Rheoli Asedau, a derbyn
adroddiad ar ganlyniadau'r adolygiad erbyn 31 Rhagfyr 2015 fan bellaf.
Ar y pwynt hwn
(11.40 am) cafwyd egwyl ar gyfer paned.