Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 16/12/2014 - Cabinet (Eitem 10)

10 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 103 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo trosglwyddo £20,000 ​​i Gronfa Gwasanaeth y Crwner; a

 

(c)        bod y Cyngor yn ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad yng ngogledd Cymru i ofyn am eu barn am y gostyngiad yn y cyllid a roddir i briffyrdd Sir Ddinbych a’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer y gwelliannau i’r M4.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        rhagwelwyd tanwariant o £327,000 yn y gyllideb refeniw ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chyllidebau corfforaethol

·        cytunwyd ar arbedion o £7.1 miliwn yn rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd mae 90% wedi eu cyflawni ac mae 10% yn mynd rhagddynt

·        amlygwyd y prif amrywiadau oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion sy’n berthnasol i feysydd gwasanaeth unigol, a

·        cafwyd diweddariad cyffredinol ynglŷn â’r Cyfrif Refeniw Tai; y Cynllun Tai Cyfalaf a’r Cynllun Cyfalaf (yn cynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd i gymeradwyo trosglwyddiad o £20,000 ​​i'r Gronfa Gwasanaeth Crwner.

 

Darparodd y Cynghorydd David Smith ddiweddariad ar Gam 3 o Brosiect Amddiffyn Môr Gorllewin y Rhyl ac fe nododd yr aelodau y byddai'n cael ei gynnwys yn y Cynllun Cyfalaf yn fuan.  Fel Cadeirydd TAITH, fe adroddodd y Cynghorydd Smith ar lythyrau a anfonodd at y Gweinidog Busnes ynghylch pryderon am incwm o Asiantaeth Cefnffordd Gogledd a Chanolbarth Cymru ac i'r Gweinidog Cyllid ynghylch pryderon am gyllid LAGBI, y mae o’n aros am ymatebion.  Ailadroddodd y Cynghorydd Eryl Williams ei bryderon blaenorol ynghylch goblygiadau o ran dyrannu cyllid ar gyfer y gwelliannau M4 a gofynnodd i lythyrau gael eu hanfon at Aelodau'r Cynulliad yn hynny o beth.  Mewn perthynas â'r gostyngiad yn y Grant Cefnogi Pobl, adroddodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar sefydlu cronfa wrth gefn i reoli'r mater hwn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo trosglwyddo £20,000 ​​i Gronfa Gwasanaeth y Crwner, a

 

(c)        bod y Cyngor yn ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad yng ngogledd Cymru i ofyn am eu barn am y gostyngiad yn y cyllid a roddir i briffyrdd Sir Ddinbych a’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer y gwelliannau i’r M4.