Mater - cyfarfodydd
CORPORATE PLAN PERFORMANCE REPORT (Q2 2014 - 15)
Cyfarfod: 16/12/2014 - Cabinet (Eitem 9)
9 ADRODDIAD Y CYNLLUN Y CYNLLUN CORFFORAETHOL (CHWARTER 2 2014 – 15) PDF 104 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a
Pherfformiad (copi’n amgaeedig), yn diweddaru’r Cabinet ynglŷn â darparu’r
Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 2, 2014 - 15.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Corfforaethol.
Cofnodion:
Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd
Barbara Smith, cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Cabinet ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar
ddiwedd chwarter 2 o 2014/15. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys perfformiad
mewn perthynas â'r Cytundeb Canlyniadau a’r Gofrestr Prosiectau.
Dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn fwy
ffafriol na'r chwarter blaenorol, yn enwedig o ran yr economi leol ac fe
amlygodd nifer o welliannau. Cyfeiriwyd at effaith y toriadau ariannol a’r cysylltiadau rhwng gwneud
penderfyniadau o gwmpas broses y gyllideb a'r Cynllun Corfforaethol. Pwysleisiodd y pwysigrwydd i barhau gydag
uchelgeisiau a blaenoriaethau’r Cyngor fel y manylir yn y Cynllun
Corfforaethol.
Holodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y tebygolrwydd
o dderbyn taliad llawn o'r grant cytundeb canlyniadau. Fe gyfeiriodd y swyddogion at y broses o
gyd-drafod targedau gyda Llywodraeth Cymru ac ni ragwelwyd unrhyw golli
pwyntiau a fyddai'n effeithio ar y swm sy'n daladwy ar gyfer 2014-15. Disgwylir penderfyniad terfynol ym mis
Ionawr o ran y cytundeb ar berfformiad ar gyfer 2013-2014. Amlygodd y Cynghorydd David Smith ei
bryderon ynghylch cynnal a chadw priffyrdd ac er ei fod yn gobeithio y byddai
safon dderbyniol yn cael ei gynnal, ni fyddai modd ei warantu ar gyfer y
blynyddoedd i ddod o ystyried y sefyllfa ariannol a chael gwared ar gyllid
LABGI (Menter Twf Busnesau Awdurdodau Lleol).
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Corfforaethol.