Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

DISAGGREGATING SERVICE CHANGES FOR COUNCIL TENANTS

Cyfarfod: 16/12/2014 - Cabinet (Eitem 8)

8 DADELFENNU NEWIDIADAU GWASANAETH AR GYFER TENANTIAID Y CYNGOR pdf eicon PDF 106 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Chymunedau (copi'n amgaeedig), sy’n ceisio cytundeb y Cabinet o egwyddorion allweddol er mwyn penderfynu sut y byddai taliadau gwasanaeth yn cael eu cyfrifo a'u gweithredu o renti o fis Ebrill 2015.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno ar yr egwyddorion allweddol a fydd yn penderfynu sut y bydd taliadau gwasanaeth yn cael eu cyfrifo a'u gweithredu o renti o fis Ebrill 2015 ymlaen fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn benodol i -

 

·        fabwysiadu polisi Codi Tâl Amrywiol ar gyfer dosraniad ac adennill i bob Tenant sy’n derbyn gwasanaethau, a

 

·        bod rhenti unigol yn cael eu lleihau yn y flwyddyn gyntaf gan gyfanswm y gwasanaethau y gellir codi tâl amdanynt y mae tenantiaid yn eu derbyn.

 

·        bod y Cabinet yn nodi y bydd papur arall yn cael ei ystyried ar y taliadau terfynol fel rhan o broses bennu rhent tai cyngor blynyddol y cyngor ym mis Chwefror 2015.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad yn ceisio cytundeb y Cabinet ar yr egwyddorion allweddol er mwyn penderfynu sut y byddai taliadau gwasanaeth yn cael eu cyfrifo a'u gweithredu o renti o fis Ebrill 2015. Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi mewn ymateb i bolisi gosod rhent newydd Llywodraeth Cymru a oedd yn gofyn i daliadau gwasanaeth gael eu gwahanu o daliadau rhent tenantiaid i nodi'n glir pa wasanaethau y maent yn talu amdanynt a thaliadau a wnaed.

 

Ystyriodd y Cabinet yr opsiynau yn yr adroddiad er mwyn bodloni'r gofyniad a derbyniwyd y rhesymeg y tu ôl i'r argymhelliad i fabwysiadu polisi tâl amrywiol i adennill taliadau gwasanaeth ac i leihau rhent am y flwyddyn gyntaf yn ôl swm a dderbyniwyd o wasanaethau y codir tâl amdanynt.  Fe dynodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at gymhlethdod y broses a gofynwyd am sicrwydd y byddai'r newidiadau yn cael eu cyfleu'n effeithiol i denantiaid.  Roedd hi'n arbennig o bryderus am yr effaith anghymesur ar gyfadeiladau gwarchod a oedd yn effeithio pobl hŷn yn bennaf a sut y byddai hynny'n cael ei reoli.  Eglurodd y Swyddog Tâl Gwasanaeth (SCO) y byddai taliadau yn uwch mewn cynlluniau gwarchod oherwydd y costau cynnal ardaloedd cymunedol a fyddai'n cael ei liniaru yn rhannol ar gyfer y rhai sy'n derbyn budd-dal tai a chan y cynnig i leihau rhenti yn y flwyddyn gyntaf ac yna polisi dyrchafol.  Mewn ymateb i bryderon cyfathrebu, fe gytunodd i ystyried cysylltiad pellach gyda chyfadeiladau gwarchod i egluro materion.  Gofynnwyd am sicrwydd na fyddai'r dull amrywiol yn arwain at gynnydd mewn costau sylweddol yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i beidio â chodi digon o dâl arnynt.   Roedd y STG yn hyderus bod y rhagamcanion wedi cael eu cyfrifo yn gywir, gan roi manylion ar gyfanswm y gwaith a wnaed yn y cyswllt hwnnw.  Cadarnhaodd hefyd nad oedd unrhyw fecanwaith i eithrio allan ar gyfer tenantiaid.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno ar yr egwyddorion allweddol a fydd yn penderfynu sut y bydd taliadau gwasanaeth yn cael eu cyfrifo a'u gweithredu o renti o fis Ebrill 2015 ymlaen fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn benodol i -

 

·        fabwysiadu polisi Codi Tâl Amrywiol ar gyfer dosraniad ac adennill i bob Tenant sy’n derbyn gwasanaethau, a

 

·        bod rhenti unigol yn cael eu lleihau yn y flwyddyn gyntaf gan gyfanswm y gwasanaethau y gellir codi tâl amdanynt y mae tenantiaid yn eu derbyn.

 

bod y Cabinet yn nodi y bydd papur arall yn cael ei ystyried ar y taliadau terfynol fel rhan o broses bennu rhent tai cyngor blynyddol y cyngor ym mis Chwefror 2015.