Mater - cyfarfodydd
CONSULTATION - YSGOL ESGOB MORGAN
Cyfarfod: 16/12/2014 - Cabinet (Eitem 5)
5 YMGYNGHORIAD- YSGOL ESGOB MORGAN PDF 97 KB
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi'n
amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi'r hysbysiad statudol ar
gynigion i newid ysgol o ysgol gynradd gymunedol i ysgol gynradd Ffydd
Anglicanaidd a Reolir yn Wirfoddol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol ar gyfer y cynigion
canlynol -
- Bydd Cyngor Sir
Ddinbych yn cau Ysgol Esgob Morgan ar 31 Awst 2015; a
- Bydd Esgobaeth
Anglicanaidd Llanelwy yn agor Ysgol Ffydd Anglicanaidd newydd a Reolir yn
Wirfoddol i wasanaethu cymunedau Llanelwy a'r ardaloedd cyfagos ar 1 Medi
2015 ar safle Ysgol Esgob Morgan.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
yn manylu ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd ar gynigion i
newid Ysgol Esgob Morgan o fod yn ysgol iau gymunedol i fod yn ysgol iau o
ffydd Anglicanaidd gan ddod i rym ar 1 Medi 2015. Roedd yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i'r gymryd y cam nesaf – sef cyhoeddi hysbysiad statudol
i wneud y cynnig i newid enwad yr ysgol.
Ystyriodd y Cabinet rinweddau'r cynnig ynghyd â
chanlyniadau’r ymgynghoriad a nododd y byddai'r cynnig yn helpu gyda’r broses o
drosglwyddo disgyblion o St. Asaph VP Infants i Ysgol Esgob Morgan a symleiddio
unrhyw gynigion i gyfuno yn y dyfodol rhwng y ddwy ysgol. Wrth ymateb i gwestiynau fe fanylodd y
swyddogion ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd, a oedd yn cynnwys ymgynghoriad
wedi'i deilwra ar gyfer y disgyblion, ac yn rhoi golwg gyffredinol ar y
dadansoddiad o'r ymatebion a dderbyniwyd. Ystyriwyd nad oedd y rhan fwyaf o'r gwrthwynebwyr
yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r ysgol. Gofynnwyd am sicrwydd ynghylch yr effaith ar
safonau addysg ac fe gadarnhaodd swyddogion na fyddai unrhyw effaith negyddol
ond yn hytrach byddai gwelliannau cadarnhaol o ganlyniad i gryfhau cysylltiadau
presennol gyda'r eglwys.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i wneud y cynigion canlynol
-
- Bydd Cyngor Sir
Ddinbych yn cau Ysgol Esgob Morgan ar 31 Awst 2015; a
- Bydd Esgobaeth
Anglicanaidd Llanelwy yn agor Ysgol Ffydd Anglicanaidd newydd a Reolir yn
Wirfoddol i wasanaethu cymunedau Llanelwy a'r ardaloedd cyfagos ar 1 Medi
2015 ar safle Ysgol Esgob Morgan.