Mater - cyfarfodydd
HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE CONDITIONS - PROPOSED AMENDMENTS RELATING TO TIPPING OF SEATS
Cyfarfod: 03/12/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
manylu ar gynigion i ddiwygio amodau sy'n ymwneud â thipio seddau mewn cerbydau
trwyddedig.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod -
(a) cynigion i ddiddymu amod 2. 1 (h) a gynhwysir yn yr Amodau Trwyddedu
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat sy'n ymwneud â thipio seddau yn cael
eu cefnogi a bod ymgynghori ffurfiol yn cychwyn â'r holl ddeiliaid trwyddedau
wedi hynny, a
(b) bod
adolygiad o'r fanyleb cerbydau hacni
sy’n ymwneud â dileu'r amod yn ymwneud â thipio seddau yn cael ei gynnal a bod
canfyddiadau yn cael eu hadrodd yn ôl i gyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol i'w
hystyried.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion am gynigion i ddiwygio amodau yn
ymwneud â thipio seddau mewn cerbydau trwyddedig.
Esboniodd y Swyddogion y rhesymeg y tu ôl i’r cynnig i
gael gwared ar amod 2.1(h) yn ymwneud â thipio
seddi mewn cerbydau hurio preifat, er mwyn caniatáu pobl i fynd i mewn
ac allan o’r cerbyd yn dilyn y canllaw Adran Drafnidiaeth diweddaraf (yn
amgaeedig i’r adroddiad hwn), a phryderon a godwyd gan weithredwyr. Yn sgil effaith fflyd cerbydau hacni a
manylebau cerbydau gwahanol, argymhellwyd y dylid adolygu manyleb cerbydau
hacni, a bod y canfyddiadau’n cael eu hadrodd yn ôl mewn cyfarfod yn y dyfodol
er ystyriaeth aelodau.
Ystyriodd yr Aelodau ganllaw yr Adran Drafnidiaeth, ac fe
wnaethant hefyd nodi bod yr holl geisiadau cerbydau hurio preifat blaenorol a
gyflwynwyd i’r pwyllgor oherwydd nad oeddent yn bodloni amod 2.1(h), wedi’u
cymeradwyo. O ran amserlen ar gyfer yr
adolygiad o fanyldeb cerbydau hacni arfaethedig, dywedodd swyddogion am eu
bwriad i ddechrau’r broses ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor cyn gynted â
phosibl.
PENDERFYNWYD bod -
(a) cynigion
i gael gwared ar amod 2.1(h) a gynhwysir yn Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a
Hurio Preifat yn ymwneud â thipio seddi’n cael eu cefnogi, a bod ymgynghoriad
ffurfiol yn dechrau gyda phob deiliad trwydded wedi hynny, a
(b) bod
adolygiad o fanyleb cerbyd hacni yn ymwneud â chael gwared ar yr amod yn
ymwneud â thipio seddi’n cael ei gynna,l a bod y canfyddiadau’n cael eu hadrodd
yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol o'r pwyllgor er ystyriaeth.