Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 048126
Cyfarfod: 03/12/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 10)
10 ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 048126
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 048126.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (10/2)
Penderfyniad:
PHENDERFYNWYD diddymu
trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 048126 ar
sail diogelwch y cyhoedd yn syth.
Cofnodion:
Cyflwynwyd
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –
(i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 048126 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat;
(ii)
roedd
cwyn wedi cael ei gwneud yn erbyn Gyrrwr Rhif 048126 ar 23 Medi 2014, yr
ymchwiliwyd iddi gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (mae crynodeb o’r
ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi
i’r adroddiad);
(iii)
bod y
Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei
drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.
Cyflwynodd yr
Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol (TWE) yr adroddiad a chadarnhaodd nad
oedd yr Ymgeisydd yn bresennol, er iddo gael ei wahodd i fod yn bresennol. Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i holi
cwestiynau gyda'r swyddogion ynghylch ffeithiau'r achos, a gofynnwyd am
eglurhad ar nifer o faterion.
Ar y pwynt hwn
torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -
PENDERFYNWYD diddymu
Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 048126 ar sail diogelwch y cyhoedd ar
unwaith.
Dyma oedd y
rhesymau ynghylch penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –
Fe wnaeth y
pwyllgor ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ofalus, gan gynnwys natur y
gŵyn a'r defnydd o'r cerbyd hacni.
Canfu yr Aelodau bod y Gyrrwr wedi ymddwyn yn amhriodol ac wedi torri ei
safle o ymddiriedaeth fel gyrrwr tacsi, ac felly ystyriwyd nad oedd yn berson
addas a phriodol i ddal trwydded. Yn
ogystal, ystyriodd y pwyllgor fod ei weithredoedd wedi dod ag anfri ar y
Cyngor. Yn sgil natur a difrifoldeb y
digwyddiad, ni allai’r aelodau fod yn sicr parthed diogelwch y cyhoedd, a
phenderfynodd y pwyllgor ddiddymu’r drwydded ar sail diogelwch y cyhoedd.
Daeth y cyfarfod i ben am 10.35 a.m.