Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 047857

Cyfarfod: 03/12/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 9)

9 ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047857

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047857.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod yr adolygiad o drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat a roddwyd i Yrrwr Rhif 047857 yn cael ei ohirio nes ceir canlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.

 

Cofnodion:

Roedd y pwyllgor wedi ystyried a ddylid bwrw ymlaen ai peidio â'r adolygiad trwydded fel mater rhagarweiniol yn union cyn y cyfarfod.  Roedd y penderfyniad i ohirio'r mater wedi cael ei gyfleu i Yrrwr Rhif 047857 a'i gynrychiolydd cyfreithiol, a oedd wedi dadlau o blaid clywed yr adolygiad.  Roedd y cais i fynd ymlaen â'r gwrandawiad adolygu ar y cyfnod hwn wedi’i wrthod.  O ganlyniad, fe wnaeth yr aelodau -

 

PENDERFYNU oedi ynghylch adolygu trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif  047857, tra arhosir am ganlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.