Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 047857
Cyfarfod: 03/12/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 9)
9 ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047857
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047857.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (9/2)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod yr adolygiad o drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat a roddwyd i Yrrwr Rhif 047857 yn cael ei ohirio nes
ceir canlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.
Cofnodion:
Roedd y pwyllgor wedi ystyried a ddylid bwrw
ymlaen ai peidio â'r adolygiad trwydded fel mater rhagarweiniol yn union cyn y
cyfarfod. Roedd y penderfyniad i
ohirio'r mater wedi cael ei gyfleu i Yrrwr Rhif 047857 a'i gynrychiolydd
cyfreithiol, a oedd wedi dadlau o blaid clywed yr adolygiad. Roedd y cais i fynd ymlaen â'r gwrandawiad
adolygu ar y cyfnod hwn wedi’i wrthod. O
ganlyniad, fe wnaeth yr aelodau -
PENDERFYNU oedi ynghylch adolygu trwydded i Yrru Cerbydau
Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif
047857, tra arhosir am ganlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.