Mater - cyfarfodydd
LICENSING COMMITTEE FORWARD WORK PROGRAMME 2014/15
Cyfarfod: 03/12/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)
6 RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2014/15 PDF 50 KB
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi a bod y newidiadau
arfaethedig i'r rhaglen waith fel y nodir o fewn paragraff 3.4 yr adroddiad yn
cael eu cymeradwyo.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) yn manylu ar fân newidiadau i raglen gwaith i’r
dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ers ei chymeradwyo ym Mawrth 2014.
Rhoddodd y Swyddogion wybod am y gwaith a wnaed yn dilyn
archwiliad mewnol o weithdrefnau trwyddedu tacsis er mwyn gwella gwiriadau
cefndir ar gyfer trwyddedu tacsis, ynghyd â deddfwriaeth newydd yn gofyn am
adolygiad o'r Polisi Sefydliad Rhyw.
Nododd yr Aelodau effaith y gofynion hynny ar y rhaglen gwaith ac
awgrymasant newidiadau i'r rhaglen gwaith o ganlyniad. Felly -
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi, a bod y newidiadau
arfaethedig i'r rhaglen gwaith fel y manylir ym mharagraff 3.4 o'r adroddiad,
yn cael eu cymeradwyo.