Mater - cyfarfodydd
COMMERCIAL PARTNERSHIP
Cyfarfod: 25/11/2014 - Cabinet (Eitem 9)
9 PARTNERIAETH FASNACHOL AR GYFER Y GWASANAETH REFENIW A BUDD-DALIADAU
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
dros Gyllid ac Asedau (copi'n amgaeëdig) ynghylch cynigion i ffurfio
partneriaeth fasnachol â chwmni preifat i ddarparu Gwasanaeth Refeniw a
Budd-daliadau’r Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (9/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (9/3)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (9/4)
Penderfyniad:
{0><}100{>PENDERFYNWYD bod y Cabinet -<0}
{0><}100{>(a)<0} {0><}0{>yn argymell i'r Cyngor llawn bod y Cyngor yn mynd i mewn i’r bartneriaeth
fasnachol â y cwmni a enwyd yn yr
adroddiad, ac<0}
{0><}100{>(b)<0} {0><}0{>yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cyngor, cyflwyno adroddiad i graffu ar ôl
deunaw mis o weithredu mewn partneriaeth er mwyn adolygu cynnydd y
bartneriaeth, gan dalu sylw arbennig i elfen busnes newydd y cynnig a darparu
gwasanaeth Cymraeg.<0}
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol ynglŷn â’r
cynigion i ffurfio partneriaeth fasnachol gyda chwmni preifat i ddarparu
Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau’r Cyngor.
Mewn trafodaeth
fanwl, ystyriodd y Cabinet y dadansoddiad dewisiadau a ddarparwyd gogyfer â'r
gwasanaeth a'r rhesymeg sydd wrth wraidd y cynigion i ymrwymo i bartneriaeth
fasnachol gan gynnwys manteision hynny dros y dewisiadau amgen, yn enwedig o
ran arbedion a’r cyfle ar gyfer twf.
Roedd cynrychiolwyr o’r cwmni preifat yn bresennol a buont yn ymateb i
gwestiynau'r aelodau ynglŷn â’r model arfaethedig a’r cynlluniau i'r
dyfodol ped elai’r bartneriaeth rhagddi, gan ddarparu sicrwydd ynghylch eu
hymrwymiad i Sir Ddinbych o ran staffio a lleoliad; eu darpariaeth Gymraeg a’u
hymrwymiad i ddilyn polisïau a gweithdrefnau presennol. Cyfeiriwyd hefyd at effaith newidiadau
deddfwriaethol a chamau gweithredu i liniaru'r rheini. Dywedwyd wrth yr Aelodau am yr adborth
cadarnhaol a gafwyd wrth ymgynghori â staff ac am drafodaethau cadarnhaol
gyda’r undebau.
Cydnabu’r Cabinet
y manteision a'r cyfleoedd a ddaw o ffurfio partneriaeth fasnachol ond
gofynnwyd, pe cymeradwyir y bartneriaeth, bod adolygiad yn cael ei gynnal ymhen
tua deunaw mis.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet-
(a) yn argymell i'r Cyngor llawn
bod y Cyngor yn ymrwymo mewn partneriaeth fasnachol gyda'r cwmni a enwyd yn yr
adroddiad, ac
(b) yn amodol ar gael
cymeradwyaeth y Cyngor bod adroddiad yn cael ei gyflwyno ger bron y broses
graffu wedi deunaw mis o weithredu’r bartneriaeth er mwyn adolygu cynnydd y
bartneriaeth gan roi sylw arbennig i elfen busnes newydd y cynnig ac i
ddarpariaeth gwasanaeth Cymraeg.
Daeth y cyfarfod i ben am 1.50pm.