Mater - cyfarfodydd
VOLUNTARY AGREEMENT TO EXIT THE HOUSING REVENUE ACCOUNT SUBSIDY (HRAS) SYSTEM
Cyfarfod: 25/11/2014 - Cabinet (Eitem 10)
10 CYTUNDEB GWIRFODDOL I ADAEL Y SYSTEM CYMHORTHDAL CYFRIF REFENIW TAI (HRAS)
Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid
ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn gofyn i'r Cabinet argymell y cytundeb
gwirfoddol i'r Cyngor i'w gymeradwyo a gofyn am awdurdod dirprwyedig i gwblhau
manylion y cytundeb.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (10/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (10/3)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (10/4)
Penderfyniad:
{0><}95{>PENDERFYNWYD bod y Cabinet -<0}
{0><}100{>(a)<0} {0><}0{>yn argymell y cytundeb gwirfoddol i'r Cyngor i'w gymeradwyo ac yn nodi'r
cerrig milltir allweddol y maen nhw’n gweithio tuag atynt, er mwyn gadael
system Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai, ac<0}
{0><}100{>(b)<0} {0><}0{>yn amodol ar y Cyngor yn cymeradwyo'r cytundeb gwirfoddol, rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau a'r Prif Gyfrifydd i
gwblhau manylion y cytundeb mewn trafodaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru, Llywodraeth Cymru a'r deg awdurdod cadw stoc arall yn Cymru.<0}
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn gofyn i'r Cabinet
argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r cytundeb gwirfoddol ac yn cymeradwyo
dirprwyo awdurdod i gwblhau manylion y cytundeb.
Roedd yr
adroddiad yn amlinellu'r cerrig milltir allweddol ar gyfer gadael system
Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai ac yn rhoi trosolwg o'r cytundeb gwirfoddol sydd
i’w lofnodi rhwng yr un ar ddeg awdurdod sy’n meddu ar stoc dai a Llywodraeth
Cymru er mwyn eu galluogi i adael y system.
Ymhelaethodd y Cynghorydd Hugh Irving ar y cydweithio a fu rhwng
awdurdodau a thalodd deyrnged i waith caled y swyddogion cyllid a thai yn hynny
o beth. Ymgyfarwyddodd yr Aelodau â’r
cytundeb cydweithredol a chroesawu buddion y system arfaethedig newydd a'r
manteision ariannol ar gyfer Sir Ddinbych.
Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau ynglŷn â goblygiadau ariannol
gadael y system, y buddsoddiad posibl mewn stoc tai fforddiadwy i’r dyfodol a
goblygiadau'r uno posibl gyda Conwy.
Ailadroddodd y Cynghorydd Eryl Williams ei farn y dylid cyhoeddi
cynlluniau'r Cyngor i adeiladu tai fforddiadwy fel stori o newyddion da. Credai’r Cynghorydd Thompson-Hill y byddai'n
gyfle da i roi cyhoeddusrwydd i’r cynlluniau pan roddir ystyriaeth i adael y
system cymhorthdal tai yn y Cyngor llawn.
PENDERFYNWYD - bod y Cabinet
-
(a) yn argymell bod y Cyngor yn
cymeradwyo’r cytundeb gwirfoddol ac yn nodi'r cerrig milltir allweddol y
gweithir tuag atynt er mwyn gadael y system Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai.
(b) ar yr amod bod y Cyngor yn
cymeradwyo'r cytundeb gwirfoddol, yn dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol dros
Gyllid ac Asedau ac i'r Prif Gyfrifydd i gwblhau manylion y cytundeb mewn
trafodaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru a'r deg
awdurdod arall yng Nghymru sy’n meddu ar stoc dai.