Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 25/11/2014 - Cabinet (Eitem 7)

7 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 99 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

{0>RESOLVED that Cabinet note the budgets set for 2014/15 and progress against the agreed budget strategy.<}100{>PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.<0}

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni.  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        rhagwelwyd tanwariant o £158 mil yn y gyllideb refeniw ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chyllidebau corfforaethol

·        cytunwyd ar arbedion o £7.1 miliwn yn rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd mae 90% wedi eu cyflawni ac mae 10% yn mynd rhagddynt

·        amlygwyd y prif amrywiadau oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion meysydd gwasanaeth unigol

·        cafwyd diweddariad cyffredinol ynglŷn â’r Cyfrif Refeniw Tai; y Cynllun Tai Cyfalaf a’r Cynllun Cyfalaf (yn cynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Adroddodd y Cynghorydd Eryl Williams am gyfarfod Blynyddol y Gweinidog Addysg gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos cynt pan drafodwyd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac amlygu’r angen i fynd i'r afael â lleoedd gweigion.  Nododd yr aelodau fod nifer o gynghorau yn ei chael yn anodd ariannu’r prosiectau hynny a phwysleisiodd yr Arweinydd pa mor bwysig yw parhau â'r disgwyliadau a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol.  Roedd hefyd yn falch o nodi cynnydd cadarnhaol y prif brosiectau a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni.